Baner Indonesia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Indonesia FIAV 111111.svg

Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch coch a stribed is gwyn yw baner Indonesia. Mae'n seiliedig ar faner Ymerodraeth Majapahit y drydedd ganrif ar ddeg: coch a gwyn oedd lliwiau sanctaidd Indonesia yn y cyfnod hwnnw. Cafodd y lliwiau eu hadfer yn yr ugeinfed ganrif i gynrychioli cenedlaetholdeb Indonesiaidd yn erbyn yr Iseldiroedd, oedd wedi teyrnasu ar y wlad ers 1800. Mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 17 Awst, 1945, pan ddatganodd Indonesia ei hannibyniaeth ar yr Iseldiroedd; enillwyd annibyniaeth lwyr yn 1949.

Mae coch yn symboleiddio bywyd corfforol (y corff), tra bo gwyn yn symboleiddio bywyd ysbrydol (yr enaid); gyda'i gilydd maent yn cynrychioli'r bod dynol. Yn ogystal mae coch a gwyn yn lliwiau tradoddiadol yn Ne Ddwyrain Asia.

Mae'n unfath â baner Monaco, ac eithrio'u cyfraneddau (2:3 yw baner Indonesia o gymharu â 4:5).

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Flag of Indonesia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Indonesia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill