Baner Maldives
Maes coch gyda phetryal gwyrdd yn ei ganol â chilgant gwyn y tu fewn iddo yw baner Maldives. Symbol Islamaidd yw'r cilgant, tra bod gwyrdd yn cynrychioli heddwch a ffyniant a choch yn symboleiddio'r gwaed a gollwyd yn y frwydr am annibyniaeth. Mabwysiadwyd ar 26 Gorffennaf 1965.
Ffynhonnell [golygu]
- Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Southwater, 2010).
|
||||||||||||||