Baner Azerbaijan

Baner drilliw lorweddol gyda stribed uwch glas, stribed is gwyrdd, a stribed canol coch gyda chilgant a seren wyth-pwynt gwyn yn ei ganol yw baner Azerbaijan. Lliw a gysylltir â'r pobloedd Tyrcaidd yw glas, mae coch yn cynrychioli dylanwad Ewropeaidd yn y wlad, a gwyrdd yw lliw traddodiadol Islam: mae'r lliwiau yn cynrychioli arwyddair Azerbaijan i "Dyrceiddio, Islameiddio, ac Ewropeiddio" (nid yw hyn yn arwyddair cenedlaethol swyddogol). Symbol Islam yw'r cilgant a'r seren; mae pob pwynt ar y seren yn cynrychioli pobl Dyrcaidd. Daeth yr ysbrydoliaeth am y cilgant a'r seren o faner Twrci. Defnyddiwyd y faner yn gyntaf (gyda'r cilgant a seren yn y hoist ac yn gorgyffwrdd â'r tri stribed) yn y cyfnod byr o annibyniaeth fel Gweriniaeth Ddemocrataidd Azerbaijan rhwng 1918 a 1920,[1] ac yn ystod cyfnod Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Azerbaijan defnyddiwyd amrywiadau ar y Faner Goch. Yn dilyn cwymp UGSS mabwysiadwyd y faner gyfredol ar 5 Chwefror, 1991.
-
Baner Gweriniaeth Ddemocrataidd Azerbaijan, 1918–1920
-
Baner Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Azerbaijan, 1920–1921
-
Baner GSS Azerbaijan, 1937–1940
-
Baner GSS Azerbaijan, 1940–1952
-
Baner GSS Azerbaijan, 1952–1991
[golygu] Ffynonellau
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)