Traeth baner las

Mae traeth baner las yn draeth morol neu ddŵr croyw adloniadol sy'n ateb gofynion llym o ran safonau'r dŵr trwy gydol y cyfnod nofio blaenorol. Rhoddir statws baner las i farinas hefyd.
Rhoddir statws baner las i draethau mewn dros 30 o wledydd yn Ewrop, De Affrica, Seland Newydd, Canada a'r Caribi yn seiliedig ar safonau a meini prawf a osodir ac a reolir gan y mudiad di-elw, Sefydliad dros Ymgyrch Addysgu Amgylcheddol (Sa:Foundation for Environmental Education (FEE) Campaign).

Rhaid i draeth sy'n ateb gofynion statws draeth las sicrhau safon glendid y dŵr, diogelwch, darpariaeth gwasanaethau a rheolaeth amgylcheddol cyffredinol. Darperir cyfleoedd nofio glân a diogel mewn awyrgylch di-gŵn.
Dynoda'r hawl i hedfan Baner Las ar draeth neu ddyfroedd adloniadol fod safonau amgylcheddol uchel yno a chaiff ei ystyried yn bluen yng nghap awdurdodau lleol a darparwyr cyfleusterau adloniadol ar y dŵr.
Yn 2008, roedd gan Sbaen 455 o draethau baner las, tra bod gan Gwlad Groeg 430 a Twrci 258. Mae yna 41 o draethau yng Nghymru sydd wedi derbyn statws baner las.[1]
Cymru
[golygu | golygu cod]- Prif: Traethau baner las Cymru
Ceir 38 o draethau glas yng Nghymru.
Yn 2013 roedd 33 traeth a 5 marina wedi'u cofrestru. Mae'r map hwn yn lleoli traethau a gofrestrwyd fel rhai "baner las" ers 2012, gan gynnwys:
1 Abergele, 2 Llandrillo yn Rhos, 3 Llanddona, 4 Porth Dafarch, 5 Bae Trearddur, 6 Cei Newydd, 7 Traethau Dinbych y Pysgod, 8 Saundersfoot, 9 Port Einon, 10 Bae Caswell
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Blue Flag Beaches of Wales 2009[dolen farw] 08-08-2009. Adalwyd 11-05-2009
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Ymgyrch y Faner Las
- Baneri Glas yn ôl gwlad Archifwyd 2008-05-29 yn y Peiriant Wayback
- Baneri Glas yng Ngwlad Groeg Archifwyd 2009-04-29 yn y Peiriant Wayback (rhestr o'r 430 o draethau) Archifwyd 2009-04-08 yn y Peiriant Wayback
- Baneri Glas ym Mhortiwgal Archifwyd 2008-02-02 yn y Peiriant Wayback (193 traeth)
- Baneri Glas yn yr Eidal Archifwyd 2008-02-14 yn y Peiriant Wayback (214 traeth)
- Baneri Glas yn Sbaen Archifwyd 2009-05-27 yn y Peiriant Wayback (447 traeth)
- Meini prawf y traethau Archifwyd 2009-04-28 yn y Peiriant Wayback