Rest Bay, Porthcawl

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rest Bay, Porth Cawl)
Un o draethau baner las Cymru

Mae na naw o draethau ym Mhorth Cawl, Pen-y-bont ar Ogwr (sir) ac mae Rest Bay' yn un ohonyn nhw, tua dwy filltir o Borth Cawl ei hun.

Mae'n draeth tywod melyn o safon Baner Las yng ngorllewin Porth Cawl ac yn wynebu'r de-orllewin sy'n golygu ei fod yn llygad yr haul. Mae'n hynod o boblogaidd am ei chwaraeon dŵr, yn enwedig syrffio. Mae na gamera byw (live cam) ar y tonnau 24 awr y dydd a cheir gorsaf achub yn goruchwylio'r traeth, gyda'i weithwyr yn cadw llygad ar y nofwyr a'r chwaraewyr dŵr.

I'r gorllewin o'r traeth saif Clwb Golff Porth Cawl Brenhinol a Phentir Sker. Ym Mhorth Cawl ei hun ceir siopau twristaidd, ffeiriau, candifflos, clybiau nos, disgos a gwestai. Ond does dim llawer yn Rest Bay, ar wahan i draethau, creigiau a môr.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Traethau baner las Cymru


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]