Diwydiant gwlân yn Sir Gaernarfon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd diwydiant gwlân yn Sir Gaernarfon yn dipyn mwy na'r hyn oedd yn Sir Fôn a hynny oherwydd traddodiad amaethyddol y Sir o gadw diadellau mawr o ddefaid. Yn debyg i siroedd eraill Gogledd Cymru, trefn y dydd hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg cynnar, oedd nyddu a gweu yn y cartref. Roedd gwlân yn cael ei liwio yn y cartref hefyd, fel yn nhref Gwydir rhwng 1809-11 lle'r oedd 'much woollen yarn is spun and woven into a chequered stuff dyed at home'.[1] Roedd casglu cen ar gyfer lliwio gwlân gartref yn bwysig yn sawl rhan o'r Sir fel yn Rhiw ym Mhenrhyn Llyn.

Pandai[golygu | golygu cod y dudalen]

Awgryma'r dosbarthiad o bandai, hyd yn oed yn 1809, fod gweu yn boblogaidd iawn yn Sir Gaernarfon.  Mae'r cyfeiriad cyntaf at bandy yn 1427 lle disgrifir melin yn Llandygai fel pandy. Er hynny, agorodd melinau eraill yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg.

Noda Hall fodolaeth pedair ar ddeg pandy arbenigol. Roedd rhain yn Betws-y-Coed, Penmachno, trefgordd Eidda (Ysbyty Ifan), Dolwyddelan, Bangor, Llanddeiniolen, Llanfair Isgaer, Llanrug, Penmorfa, Chwilog, Llannor (dwy), Abersoch, Aberdaron (dwy). Mae tystiolaeth o enwau-llefydd a dogfennau yn awgrymu bod pandai wedi bodoli ar un adeg yn y llefydd canlynol: Betws Garmon, Dolbenmaen, Eidda, Henllys, Llanbeblig, Llandygai, Llanddeiniolen, Llanengan (dwy), Llanllechid, Llanllyfni, Llaniestyn, Llanrug (dwy), Llanwnda, Penmachno, Ystumcegid, Aberdaron, Bryncroes, Llanystumdwy, Mynytho, Llannor, Llanfairfechan ac Henryd.[2]

Melinau[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn 1820 roedd melinau mwy cynhwysfawr ar waith lle defyddiwyd peiriannau i greu pob mathau o ddefnyddiau fel un o'r melinau mwyaf adnabyddus - Melin Bryncir yn Garndolbenmaen. Yn 1850 roedd y melinau canlynol yn cynhyrchu: Caernarfon (Royal neu Peblig Factory), Llanwnda, Y Ffôr, Nanhoron, Eden, Beddgelert (Craflwyn), Penmachno (Ffatri Uchaf), Penmachno (Paddock), Penmachno (Melinau Pandy), Penmachno (Ffatri Uchaf), Llanrug, Tryfan, Dolgarrog, Pwllheli (Ffatri Dâr), Chwilog (Plas Du), Garndolbenmaen (Bryncir), Garndolbenmaen (Garn), Penygroes (Llyfnwy), Penygroes (Tai Lôn), Rhoshirwaun (Pencaerau), Betws-y-Coed, Dolwyddelan.[3]

Cyfeiriadaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Hall, E. H. (1952). A description of Caernarvonshire 1809-11, (golygu gan E. G. Jones). p. 120. 
  2. Jenkins, J. Geraint (1969). The Welsh Woollen Industry. Caerdydd: William Lewis (Printers) Ltd. p. 237. 
  3. Jenkins, J. Geraint (1969). The Welsh Woollen Industry. Caerdydd: William Lewis (Printers) Ltd. p. 240.