Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015

Oddi ar Wicipedia
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu
Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015
Coat of arms or logo
Gwefan
Gwefan y Cynulliad

Deddf, neu Fil, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer lleihau nifer y prif awdurdodau lleol yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â hynny, ac i wneud diwygiadau eraill i gyfraith llywodraeth leol yw Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015.[1][2] Daeth y ddeddf yn gyfraith yng Nghymru ar 25 Tachwedd 2015.

Cyflwynwyd y ddeddf gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Y bwriad yw uno a diwygio llywodraeth leol ac mae'n cynnwys darpariaethau i uno gwirfoddol cynnar rhwng dau neu ragor o Brif Awdurdodau Lleol erbyn mis Ebrill 2018. Mae'r Bil hefyd yn diwygio’r ddarpariaeth ddeddfwriaethol bresennol ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (parthed Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a'r arolwg o gynghorwyr ac o ymgeiswyr aflwyddiannus) a Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (parthed adolygiadau etholiadol).

Taflen amser
  • 26 Ionawr 2015 - Cyflwyno'r Bil.
  • 23 Chwefror 2015 ymlaen - Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol.
  • 19 Mai 2015 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol. Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil.
  • 24 Mehefin 2015 - Ystyriwyd gwelliannau yng nghyfarfod y Pwyllgor.
  • 29 Medi 2015 - Y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau.
  • 20 Hydref 2015 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn.
  • 25 Tachwedd 2015 - Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015; adalwyd 6 Rhagfyr 2015
  2. www.legislation.gov.uk; adalwyd 6 Rhagfyr 2015