Aberdeen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Lesbardd (sgwrs | cyfraniadau) →Pobl o Aberdeen: cecil, maxwell, yeats |
Lesbardd (sgwrs | cyfraniadau) →Pobl o Aberdeen: cludiant |
||
Llinell 23: | Llinell 23: | ||
* [[James Clerk Maxwell]] (1831–1879), gwyddonwr |
* [[James Clerk Maxwell]] (1831–1879), gwyddonwr |
||
* [[Ron Yeats]] g. 1937, chwaraewr pêl-droed |
* [[Ron Yeats]] g. 1937, chwaraewr pêl-droed |
||
==Cludiant== |
|||
Mae gan Aberdeen [[Maes Awyr Aberdeen|maes awyr]]. |
|||
Mae trenau'n mynd o [[Gorsaf reilffordd Aberdeen|orsaf reilffordd Aberdeen]] i [[Inverness]], [[Glasgow]], [[Caeredin]], [[Llundain]] a [[Penzance]]. |
|||
Mae gwasanaethau fferi [[Northlink]] yn mynd i [[Kirkwall]] a [[Lerwick]]. |
|||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
Fersiwn yn ôl 15:32, 11 Ionawr 2017
- Gweler hefyd Swydd Aberdeen.
Dinas yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Aberdeen (Gaeleg: Obar Dheathain). Mae hefyd yn un o awdurdodau unedol yr Alban. Mae'n borthladd sy'n gorwedd ar lan Môr y Gogledd, rhwng aberoedd Afon Dee ac Afon Don, ac mae'n enwog am ei diwydiant pysgota ac fel un o brif ganolfannau diwydiant olew yr Alban. Mae ganddi boblogaeth o 202,370 (2001), sy'n ei gwneud y drydedd ddinas yn yr Alban o ran poblogaeth.
Mae'n ddinas hanesyddol gydag eglwys gadeiriol, nifer o hen dai a phrifysgol a sefydlwyd ym 1494. Roedd yn ganolfan i waith chwareli ithfaen yn y gorffennol a daeth yn enwog fel y 'Ddinas Ithfaen' am ei bod yn cyflenwi cerrig ar gyfer palmantu strydoedd Llundain yn y ddeunawfed ganrif.
Adeiladau a chofadeiladau
- Coleg Marischal
- Eglwys Gadeiriol Sant Machar
- Neuadd cerddoriaeth
- Tolbooth
- Tŷ'r Provost Ross
Pobl o Aberdeen
- Henry Cecil (1943–2013), hyfforddwr ceffylau
- Mary Garden (1874-1967), cantores
- Graeme Garden (g. 1943), comediwr
- Evelyn Glennie (g. 1965), cerddores
- Denis Law (g. 1940), chwaraewr pêl-droed
- Annie Lennox (g. 1954), cantores
- James Clerk Maxwell (1831–1879), gwyddonwr
- Ron Yeats g. 1937, chwaraewr pêl-droed
Cludiant
Mae gan Aberdeen maes awyr.
Mae trenau'n mynd o orsaf reilffordd Aberdeen i Inverness, Glasgow, Caeredin, Llundain a Penzance.
Mae gwasanaethau fferi Northlink yn mynd i Kirkwall a Lerwick.
Gweler hefyd
- De Aberdeen (etholaeth seneddol y DU)
- Dwyrain Dundee (etholaeth seneddol y DU)
- Gorllewin Dundee (etholaeth seneddol y DU)