Neidio i'r cynnwys

Universiade

Oddi ar Wicipedia
Universiade
Enghraifft o:digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathdigwyddiad aml-chwaraeon, cystadleuaeth ryngwladol, youth sports competition Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1959 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSummer Universiade, Winter Universiade Edit this on Wikidata
Enw brodorolUniversiade Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.fisu.net/sport-events Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/04xx1m edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner FISU

Cystadleuaeth aml-chwaraeon ryngwladol yw'r Universiade a drefnir gan y Ffederasiwn Chwaraeon Prifysgol Rhyngwladol (FISU) ar gyfer mabolgampwyr sy'n fyfyrwyr prifysgol. Cynhelir gemau'r haf a'r gaeaf pob dwy flynedd, mewn dinasoedd ar wahân. Mae'r Universiade hefyd yn ŵyl ddiwylliannol i geisio dathlu "ysbryd cyfeillgar a sbortsmonaeth".[1]

Cynhaliwyd cystadlaethau rhyngwladol ar gyfer myfyrwyr ers dechrau'r 20g. Erbyn y 1950au roedd Undeb Rhyngwladol y Myfyrwyr (ISU) a FISU yn trefnu pencampwriaethau ar wahân: Gemau Prifysgol y Byd gan ISU, a'r Wythnosau Chwaraeon Prifysgol Rhyngwladol gan FISU. Cytunodd y ddau sefydliad i gefnogi mabolgampau yn Torino, yr Eidal, ym 1959. Rhoddwyd yr enw Universiade ar y gemau hyn, cyfuniad o'r geiriau Eidaleg università ac olimpiade.[2]

Gemau'r Haf

[golygu | golygu cod]
Gemau Universiade yr Haf
Gwledydd sydd wedi cynnal y gemau:
     Unwaith      Dwywaith      Tair gwaith      Pedair gwaith
Blwyddyn Rhif Lleoliad
1959 I Torino Baner Yr Eidal Yr Eidal
1961 II Sofia  Bwlgaria
1963 III Porto Alegre Baner Brasil Brasil
1965 IV Bwdapest Baner Hwngari Hwngari
1967 V Tokyo Baner Japan Japan
1970 VI Torino Baner Yr Eidal Yr Eidal
1973 VII Moscfa Baner Undeb Sofietaidd Undeb Sofietaidd
1975 VIII Rhufain Baner Yr Eidal Yr Eidal
1977 IX Sofia  Bwlgaria
1979 X Dinas Mecsico Baner Mecsico Mecsico
1981 XI Bwcarést Baner Rwmania Rwmania
1983 XII Edmonton Baner Canada Canada
1985 XIII Kobe Baner Japan Japan
1987 XIV Zagreb Baner Iwgoslafia Iwgoslafia
1989 XV Duisburg Baner Yr Almaen Yr Almaen
1991 XVI Sheffield  Y Deyrnas Unedig
1993 XVII Buffalo Baner Unol Daleithiau Unol Daleithiau
1995 XVIII Fukuoka Baner Japan Japan
1997 XIX Sisili Baner Yr Eidal Yr Eidal
1999 XX Palma de Mallorca Baner Sbaen Sbaen
2001 XXI Beijing Baner Tsieina Tsieina
2003 XXII Taegu Baner De Corea De Corea
2005 XXIII İzmir Baner Twrci Twrci
2007 XXIV Bangkok Baner Gwlad Tai Gwlad Tai
2009 XXV Beograd Baner Serbia Serbia
2011 XXVI Shenzhen Baner Tsieina Tsieina
2013 XXVII Kazan Baner Rwsia Rwsia
2015 XXVIII Gwangju Baner De Corea De Corea
2017 XXIX Taipei Baner Taipei Tsieineaidd Taipei Tsieineaidd
2019 XXX Napoli Baner Yr Eidal Yr Eidal
2021 XXXI Bwcarést Baner Rwmania Rwmania

Cynhelir gemau Universiade yr haf dros 12 niwrnod. Mae 11 o chwaraeon gorfodol (14 o ddisgyblaethau), a hyd at 3 o chwaraeon a ddewisir gan y wlad sy'n cynnal y gemau. Y 14 mabolgamp orfodol yw athletau, cleddyfa, gymnasteg gelfydd, gymnasteg rythmig, jiwdo, nofio, pêl-droed, pêl-fasged, pêl-foli, plymio, polo dŵr, taekwondo, tenis, a thenis bwrdd. Mae disgwyl ychwanegu saethyddiaeth at restr y chwaraeon gorfodol yn 2019, a badminton yn 2021.[1]

Gemau'r Gaeaf

[golygu | golygu cod]
Gemau Universiade y Gaeaf
Gwledydd sydd wedi cynnal y gemau:
     Unwaith      Dwywaith      Tair gwaith      Pedair gwaith      Pum gwaith      Chwe gwaith
Blwyddyn Rhif Lleoliad
1960 I Chamonix Baner Ffrainc Ffrainc
1962 II Villars-sur-Ollon Baner Y Swistir Y Swistir
1964 III Špindlerův Mlýn Baner Tsiecoslofacia Tsiecoslofacia
1966 IV Sestriere Baner Yr Eidal Yr Eidal
1968 V Innsbruck Baner Awstria Awstria
1970 VI Rovaniemi Baner Y Ffindir Y Ffindir
1972 VII Lake Placid Baner Unol Daleithiau Unol Daleithiau
1975 VIII Livigno Baner Yr Eidal Yr Eidal
1978 IX Špindlerův Mlýn Baner Tsiecoslofacia Tsiecoslofacia
1981 X Jaca Baner Sbaen Sbaen
1983 XI Sofia  Bwlgaria
1985 XII Belluno Baner Yr Eidal Yr Eidal
1987 XIII Štrbské Pleso Baner Tsiecoslofacia Tsiecoslofacia
1989 XIV Sofia  Bwlgaria
1991 XV Sapporo Baner Japan Japan
1993 XVI Zakopane Baner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
1995 XVII Jaca Baner Sbaen Sbaen
1997 XVIII Muju Baner De Corea De Corea
1999 XIX Poprad-Tatry  Slofacia
2001 XX Zakopane Baner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
2003 XXI Tarvisio Baner Yr Eidal Yr Eidal
2005 XXII Innsbruck Baner Awstria Awstria
2007 XXIII Torino Baner Yr Eidal Yr Eidal
2009 XXIV Harbin Baner Tsieina Tsieina
2011 XXV Erzurum Baner Twrci Twrci
2013 XXVI Trentino Baner Yr Eidal Yr Eidal
2015 XXVII Granada Baner Sbaen Sbaen
Štrbské Pleso/Osrblie  Slofacia
2017 XXVIII Almaty Baner Casachstan Casachstan
2019 XXIX Krasnoyarsk Baner Rwsia Rwsia
2021 XXX Lucerne Baner Y Swistir Y Swistir

Para gemau Universiade y gaeaf am 11 niwrnod. Mae 6 o chwaraeon gorfodol (8 o ddisgyblaethau) gan raglen gemau'r gaeaf, a hyd at 3 o chwaraeon dewisiol. Yr 8 mabolgamp orfodol yw'r biathlon, cwrlo, eirafyrddio, hoci iâ, sgio Alpinaidd, sgio traws gwlad, sglefrio ffigyrau a sglefrio ar y cyd, a sglefrio cyflym trac byr.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Summer Universiade Archifwyd 2017-01-19 yn y Peiriant Wayback, FISU. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
  2. (Saesneg) FISU History Archifwyd 2017-01-19 yn y Peiriant Wayback, FISU. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
  3. (Saesneg) Winter Universiade Archifwyd 2015-02-04 yn y Peiriant Wayback, FISU. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]