Penrhyn Gŵyr
Math | ardal gadwriaethol, gorynys |
---|---|
Poblogaeth | 76,400 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Arwynebedd | 180 km² |
Gerllaw | Môr Hafren |
Cyfesurynnau | 51.5915°N 4.2163°W |
Cod OS | SS465904 |
Statws treftadaeth | Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol |
Manylion | |
- Gweler hefyd Gŵyr a Penrhyn (gwahaniaethu).
Mae Penrhyn Gŵyr rhwng Bae Abertawe a Bae Caerfyrddin, ym Morgannwg, Cymru; mae wedi'i ddynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Gan fod y creigiau o gerrig calch mae nifer o gilfachau ac ogofeydd yno. Yma mae Ogof Paviland, lle darganfuwyd sgerbwd dyn o ryw 25,000 o flynyddoedd yn ôl.
Blodeuodd 'teyrnas Gŵyr' yma am gyfnod byr - yn yr Oesoedd Canol Cynnar.
Bu i Ffleminiaid a Saeson ymsefydlu ar rannau deheuol y penrhyn yn y ddeuddegfed ganrif yn sgîl goresgyn iseldiroedd arfordir de Cymru gan y Normaniaid, ac o ganlyniad, Saesneg yw prif iaith yr ardal hon ers hynny. Arhosodd pentrefi gogledd-ddwyrain y penrhyn yn Gymraeg eu hiaith hyd ail hanner yr ugeinfed ganrif a chlywir gwahaniaeth amlwg yn acenion a ffordd o siarad y ddwy ardal hyd heddiw.
Ymwelodd Gerallt Gymro â Gŵyr yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Yn ei lys yn Ynysforgan ar benrhyn Gŵyr trigai Hopcyn ap Tomas (tua 1337-1408), noddwr beirdd a chasglwr llawysgrifau, a gysylltir â Llyfr Coch Hergest.
Mae Penclawdd sydd ar yr arfordir gogleddol yn enwog am y cocos a gesglir oddi ar y traeth.
Heddiw mae Bro Gŵyr yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid dros fisoedd yr haf. Erys amaethyddiaeth yn bwysig iawn yn yr economi lleol ond gwelir llawer o bobl yn ymddeol o ardaloedd eraill Cymru a Lloegr i fyw ym mhentrefi Bro Gŵyr, ac felly'n codi pris tai o afael y brodorion.
Pentrefi Bro Gŵyr
[golygu | golygu cod]Ceir cymysgfa o enwau Cymraeg a Saesneg ar bentrefi'r penrhyn, sy'n ddrych i'w hanes. Ceir rhai pentrefi gydag enwau Cymraeg yn unig, eraill gydag enwau yn y ddwy iaith, ac eraill ag enwau Saesneg yn unig.