Inverness
![]() | |
Math |
dinas, large burgh ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
47,290 ![]() |
Gefeilldref/i |
Augsburg, Saint-Valery-en-Caux ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Cyngor yr Ucheldir, Inverness and Bona, Inverness-shire, Inverness (district) ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
8 mi² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Munlochy ![]() |
Cyfesurynnau |
57.4839°N 4.2258°W ![]() |
Cod SYG |
S20000479, S19000604 ![]() |
Cod post |
IV1, IV3, IV2 ![]() |
![]() | |
Dinas yn Ucheldiroedd yr Alban yw Inverness (Gaeleg: Inbhir Nis;[1][2] Sgoteg: Innerness). Saif lle mae Afon Ness yn llifo i mewn i'r Moray Firth. Mae'r boblogaeth yn 66,600, gyda 5.47% ohonynt yn siarad Gaeleg. Dyma yw prif ganolfan poblogaeth ardal Cyngor yr Ucheldir.
Roedd Inverness yn un o brif gadarnleoedd y Pictiaid, a chofnodir i Sant Colum Cille ddod yma yn 565 i efengylu i Bridei I, brenin y Pictiaid. Dywedir i'r castell gael ei adeiladu gan Máel Coluim III wedi iddo ddinistrio castell cynharach a adeiladwyd gan Mac Bethad mac Findláich (Macbeth). Ymladdwyd Brwydr Culloden gerllaw'r ddinas yn 1746.
Ar 7 Medi 1921 cynhaliwyd cyfarfod o gabinet y Deyrnas Unedig yma, yr unig dro erioed iddo gyfarfod tu allan i Lundain. Roedd y Prif Weinidog, David Lloyd George, ar ei wyliau yn Gairloch, a galwodd gyfarfod yma i drafod yr argyfwng yn Iwerddon.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Castell Inverness
- Eglwys gadeiriol
- Theatr Eden Court
- Ysbyty Raigmore
Pobl enwog o Inverness[golygu | golygu cod y dudalen]
- Marion Wallace Dunlop, y swffragét cyntaf i fynd ar ympryd (ar 5 Gorffennaf 1909)
- Charles Kennedy, cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol
- Mike Zagorski, seiclwr
- Elspet Gray (g. 1929), actores
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba; adalwyd 4 Hydref 2019
- ↑ British Place Names; adalwyd 4 Hydref 2019