Gramadegau Cerdd Dafod

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Dros y blynyddoedd, mae nifer o lyfrau a llawysgrifau wedi ymdrin â'r gynghanedd a Cherdd Dafod. Yr enghraifft gyntaf y gwyddys amdani gyda sicrwydd yw Gramadeg Einion Offeiriad a gyfansoddwyd, fe dybir, oddeutu 1320, ac ymron saith can mlynedd yn ddiweddarach, yn 2010, cyhoeddwyd y llyfr Cynghanedd i Blant o waith Mererid Hopwood i gyflwyno'r etifeddiaeth i'r plant lleiaf. Rhwng y ddau begwn hyn, cyhoeddwyd nifer o ymdriniaethau â'r gynghanedd, boed yn ramadegau, yn werslyfrau neu'n astudiaethau

Erbyn heddiw, mae nifer o'r llyfrau yn ansafonol, ac mae rhai ohonynt yn ffugiadau.

Isod, ceir rhestr o'r prif ymdriniaethau a'r ymdrechion dros y blynyddoedd i gyfundrefnu ac addysgu am Gerdd Dafod mewn trefn gronolegol.

Gramadegau, Gwerslyfrau ac Astudiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

13eg ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ede[y]rn "Dafod Aur"
Ychydig iawn a wyddys am Edern "Dafod Aur". Ceir ambell gyfeiriad at ysgolhaig o'r enw Edern yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr ond nid oes sôn am lyfr gramadeg ganddo. Llurguniwyd ei enw gan waith John Williams (Ab Ithel) a Iolo Morganwg pan gyhoeddwyd y testun gwallus Dosparth Edeyrn Davod Aur gan y Welsh Manuscripts Society ym 1856, testun a dadogir ar "Edeyrn Dafod Aur".[1] Y mae'n bosibl er hynny bod Edern wedi ysgrifennu gramadeg cynnar, ond ni ellir bod yn sicr.

14eg ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gramadeg Einion Offeiriad (c. 1320)
Yr ymgais gyntaf y gwyddys amdani i geisio cyfundrefnu'r gynghanedd yw Gramadeg Einion Offeiriad. Adolygwyd y gramadeg cyn 1330 gan Ddafydd Ddu Athro gan roi'r sylfaen i'r Pedwar Mesur ar Hugain. Dyma'r cyntaf o dri thraethawd a adwaenir fel Gramadegau'r Penceirddiaid.

15fed ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gramadeg Gutun Owain (c. 1451)
Bardd o'r 15fed ganrif oedd Gutun Owain. Dyma'r ail draethawd, sef diwygiad o'r gramadeg cyntaf ar ôl i Ddafydd ab Edmwnd ail-strwythuro'r Pedwar mesur ar hugain yn Eisteddfod Caerfyrddin 1451. Ceir ynddo ymdriniaeth o'r cynganeddion.

16eg ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mhedwaredd ran y gramadeg hwn, Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg, ceir enghreifftiau o rai o fesurau Cerdd Dafod, a pheth o waith beirdd y cyfnod yn y bumed ran.
  • Pum Llyfr Cerddwriaeth, Simwnt Fychan (c. 1570)
Bardd o'r 16eg ganrif oedd Simwnt Fychan. Pum Llyfr Cerddwriaeth yw'r drydedd fersiwn o Ramadeg y Penceirddiaid, a gysodwyd efallai o ganlyniad i Ail Eisteddfod Caerwys, 1567. Ychwanegwyd adran newydd ar y cynganeddion, gan wneud y Gramadeg hwn yr un mwyaf cynhwysfawr a gafwyd hyd hynny. Mae'n bosibl mai gwaith Gruffudd Hiraethog, athro Simwnt, yw'r adran hon.
  • Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Insitutiones et Rudimenta, Siôn Dafydd Rhys (1592)
Gramadeg Lladin yw Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Insitutiones et Rudimenta gan Siôn Dafydd Rhys, ac y mae'n ramadeg cynhwysfawr sy'n ymdrin â rheolau Cerdd Dafod. Bu'n boblogaidd ymysg beirdd y ddeunawfed ganrif, megis Goronwy Owen, ac y mae'n cynnwys awdl enghreifftiol o waith Simwnt Fychan i Birs Mostyn.
  • Bardhoniaeth, neu brydydhiaeth, William Midleton (1593/4)
Esbonia Bardhoniaeth, neu brydydhiaeth gan William Midleton brif hanfodion Cerdd Dafod gan wneud y grefft yn hygyrch i wŷr bonheddig. Fe'i hail-argraffwyd yn y Flores Poetarum Britannicorum yn 1710.[2]

17eg ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Antiquae Linguae Britannicae, John Davies, Mallwyd (1621)
Yr oedd John Davies o Fallwyd yn arbenigwr ar lawysgrifau Cymraeg, yn eiriadurwr, yn awdur, yn weinidog ac yn ysgolhaig. Llyfr ar ramadeg yr iaith yw'r Antiquae Linguae Britannicae ... Rudimenta, ond cynhwysa bennod fer ar Gerdd Dafod tua'r diwedd. Mae'n dyddio o 1621.[3]

18fed ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Grammadeg Cymraeg, Siôn Rhydderch (1728)
Cynhwysa'r gramadeg hwn gan Siôn Rhydderch[4] chwe awdl enghreifftiol gan gamarwain beirdd i gredu mai'r diffiniad o awdl yw cerdd a gynhwysa bob un o'r Pedwar mesur ar hugain. Aeth y gynghanedd o fod yn grefft ar gyfer dosbarthiadau uwch y gymdeithas i fod yn grefft werinol, gan arwain at ddirywiad enbyd yn safon y canu.

19eg ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain, Iolo Morganwg (1829)
Ni chyhoeddwyd Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain[5] tan ar ôl marwolaeth Iolo Morganwg ym 1826. Ffugiad ydyw sydd yn "ymosodiad ffyrnig"[6] ar gyfundrefn y gynghanedd a mesurau Dafydd ab Edmwnd. Gwnaeth Iolo hyn drwy ffugio nifer o lawysgrifau gan roi bodolaeth i nifer o feirdd o ffrwyth ei ddychymyg ei hun, megis tadogi traethawd ar Lywelyn ap Sion, a thadogi dyfyniadau ar feirdd fel "Dafydd o'r Nant". Adargraffwyd y llyfr yn un â Geiriadur y Bardd, gan roi cyhoeddusrwydd i'r syniadau ffug hyn. Ceisio adfer bri Morgannwg fel canolbwynt Cerdd Dafod oedd bwriad y gramadeg, ac er ei fod yn ffugiad, ystyrir Iolo bellach fel un o ysgolheigion a beirdd mwyaf ei oes.
Cyfrol fechan, sy'n ansafonol hyd yn oed yn ôl safonau'r oes.
  • Yr Ysgol Farddol, Dafydd Morganwg (1869)
Gwerslyfr gan Dafydd Morganwg yw Yr Ysgol Farddol[8] sy'n cymryd ffurf ymddiddan rhwng y disgybl (Ifor) a'r athro (Arthur). Bu'n llyfr poblogaidd iawn ar un adeg, ond y mae'n ddiffygiol yn ôl safonau heddiw wrth ddisgrifio rhai o feiau Cerdd Dafod, a thrwy roi gormod o sylw i waith ffug Iolo Morganwg.

20fed ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Prif-feirdd Eifionydd, E. D. Rowlands (1914)
Ceir rhan fer iawn ar derfyn y llyfr sy'n esbonio hanfodion y gynghanedd i blant fel y gallant fwynhau miwsig barddoniaeth yn y mesurau caethion. Y mae'n addas ar gyfer dechreuwyr rhonc, ond dim ond esgyrn noethion y gynghanedd a geir yma.
  • Y Cynganeddion Cymreig, David Thomas (1923)
Nid yw'r llawlyfr hwn gan David Thomas yn safonol heddiw; y mae'n honni y gall y gytsain "s" galedu cytseiniaid sydd ynghlwm wrthi; a hynny'n anghywir.[9]
  • Cerdd Dafod, Syr John Morris-Jones (1925)
Cerdd Dafod yw ffrwyth llafur enfawr Syr John Morris-Jones. Mae'r gyfrol yn parhau i fod yn safonol hyd heddiw ac mewn print ers 1925. Mae'r gyfrol yn defnyddio enghreifftiau gan Feirdd yr Uchelwyr i gefnogi'r rheolau. Ychwanegwyd mynegai o waith Geraint Bowen i'r gyfrol ym 1947.
  • Odl a Chynghanedd, Dewi Emrys (1938)
Llawlyfr gan Dewi Emrys sy'n cwmpasu barddoniaeth Gymraeg yw hwn; nid yn unig y gynghanedd; ond nid yw'n gwbl safonol heddiw gan ei fod yn honni, er enghraifft, y gall y gytsain "s" galedu "d", "b" ac "g".[9]
  • Llawlyfr y Cynganeddion, J. J. Evans (1939)
Llawlyfr gan J. J. Evans i "blant o'r 12 i'r 18 oed" yw hwn, ond gall fod yn berthnasol i oedrannau hŷn yn ogystal. Nid yw'n gyfrol cwbl gynhwysfawr, ond y mae'n cyflwyno hanfodion y gynghanedd, y beiau a'r prif fesurau. Ceir hefyd ddadasoddiad byr o arddull rhai o awdlau cynnar yr ugeinfed ganrif. Y mae'r llawlyfr yn crynhoi elfennau o werslyfrau'r cyfnod, ond rhaid nodi nad yw pob un ohonynt yn safonol heddiw, fel Yr Ysgol Farddol ac Y Cynganeddion Cymreig. Ceir nifer o gyfeiriadau at Cerdd Dafod (John Morris-Jones) yn y llyfr.
  • Gweithio Englyn, Wil Ifan (1948)
Llawlyfr bychan gan y bardd Wil Ifan sy'n cyflwyno hanfodion y gynghanedd.
  • Anghenion y Gynghanedd, Alan Llwyd (1973)
Gweler Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd
  • Bwyd llwy o badell awen, Geraint Bowen (1977)
Gwaith y bardd Geraint Bowen.
  • Yr Odliadur, Roy Stephens (1978)
Ar ddechrau'r llyfr hwn gan Roy Stephens ceir peth o reolau Cerdd Dafod, gan gynnwys y Pedwar mesur ar hugain a rhai o'r beiau gwaharddedig. Ceir hefyd nodiadau ar y Gynghanedd lusg gan ei bod yn ymwneud ag odlau.
  • Clywed Cynghanedd, Myrddin ap Dafydd (1994)
Cyhoeddwyd Clywed Cynghanedd gan Myrddin ap Dafydd ar ôl cyfres o wersi cynghanedd ar Radio Cymru ar ffurf tair gwers ar ddeg. Yr is-bennawd yw 'Cwrs Cerdd Dafod', ac fe arweinir y darllenydd drwy'r cynganeddion a rhai mesurau. Y mae'n addas ar gyfer dechreuwyr rhonc. Fel Cerdd Dafod, defnyddir gwaith meistri Beirdd yr Uchelwyr yn fynych i gefnogi'r rheolau.[10]

21ain ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Anghenion y Gynghanedd - Fersiwn newydd, Alan Llwyd (2007)
Fersiwn newydd o'r llyfr gan Alan Llwyd a gyhoeddwyd yn 1973, ond wedi'i hail-wampio'n llwyr. Y mae'n astudiaeth gyflawn a chynhwysfawr.
  • Yr Odliadur Newydd, Roy Stephens ac Alan Llwyd (2008)
Fersiwn ddiwygiedig o'r llyfr gwreiddiol a gyhoeddwyd yn 1978. Gan Roy Stephens ac Alan Llwyd.
  • Cynghanedd i Blant, Mererid Hopwood (2010)
Gwerslyfr ar gyfer y plant lleiaf gan Mererid Hopwood sy'n cyflwyno hanfodion y gynghanedd mewn modd hygyrch a hwyliog.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]