Beirdd Eifionydd
- Mae 'Prif-Feirdd Eifionydd' yn dargyfeirio i'r erthygl hon. Ar gyfer y gyfrol gan Edward David Rowlands, gweler Prif-feirdd Eifionydd (llyfr).
Mae cwmwd Eifionydd yng Ngwynedd yn gysylltiedig â nifer o Feirdd yn yr Iaith Gymraeg. Fodd bynnag, ers yr 20g defnyddir y term Beirdd Eifionydd[1][2][3][4] neu weithiau Prif-feirdd Eifionydd[5] i gyfeirio at grŵp anffurfiol o feirdd ar ddiwedd y 18g a dechrau'r 19g oedd yn hannu o'r ardal, i raddau helaeth wedi dysgu barddoni oddi ar ei gilydd, ac yn rhannu rhai syniadau esthetaidd. Yn eu plith roedd rhai o feirdd Cymraeg enwocaf a mwyaf dylanwadol y cyfnod, a buont yn llwyddiannus iawn yn yr Eisteddfodau oedd wedi dod yn ddigwyddiadau cynyddol gyffredin yn ystod y cyfnod.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Brodor o Eifionydd oedd Owen Gruffydd (1643-1730), y credir mai ef oedd yr olaf o feirdd y traddodiad canu mawl.[6] Roedd nifer o feirdd yn byw yn y cwmwd yn y cyfnod rhwng ei farwolaeth ef a chyfnod Beirdd Eifionydd, yn eu plith William Elias (1708-1787) ac Evan Williams (1706-??). Nid yw un o'r ffigurau cynharach hyn yn feirdd o fri erbyn heddiw, ond tystiant i'r ffaith bod yr ardal eisoes yn nodedig am gynnal beirdd yn ystod yr 18g. Awgryma E. G. Millward bod y traddodiad o gynghaneddu wedi parhau'n ddi-dor yn Eifionydd o'r canol oesoedd hyd at adeg Beirdd Eifionydd, yn wahanol i Arfon cyfagos.[7] Priodolir "deffroad llenyddol" yn Sir Gaernarfon yn y cyfnod i Dafydd Ddu Eryri (1859-1822), nad oedd o Eifionydd ond oedd â chysylltiad agos â Beirdd Eifionydd, ond awgryma Millward mai cryfhau traddodiad oedd eisoes yn bodoli ydoedd yn Eifionydd yn hytrach nag adeiladu traddodiad o'r neywdd.[7]
Beirdd y Grŵp
[golygu | golygu cod]Y tri prif enw yn y cylch, a'r tri y mae beirniaid yn eu trafod amlaf, oedd Robert ap Gwilym Ddu (1766-1850), Dewi Wyn o Eifion (1784-1841) ac Eben Fardd (1802-1863).[8] Roedd yr hynaf o'r rhain, Robert ap Gwilym Ddu, yn athro i'r nesaf sef Dewi Wyn,[9][10] a oedd yn ei dro yn athro barddonol i Eben Fardd.[11] At y tri enw uchod gellir ychwanegu enwau nifer o feirdd eraill oedd yn ran o'r cylch, megis Pedr Fardd (1775-1845), Siôn Wyn o Eifion (1786-1859), Ellis Owen (1789-1868) a Nicander (1809-1874), oedd yn ddisgybl i Eben. Ysgrifennodd Eben Fardd gerdd yn yr 1830au yn moli'r fro, Eifionydd; ynddi mae'n cyfeirio'n unigol at yr holl feirdd yma;[12] trafodir pob un ohonynt ag eithrio Ellis Owen yng nghyfrol Edward David Rowlands ar feirdd y cylch.[5]

Robert ap Gwilym Ddu oedd yr hynaf o'r cylch o dipyn; roedd eisoes yn 17 oed pan ganwyd Dewi Wyn, y nesaf, a dros ei ddeugain oed pan ganwyd Nicander, y ieuengaf, yn 1809. Fodd bynnag cyhoeddwyd mwyafrif y farddoniaeth o'i eiddo sydd wedi goroesi ar ôl 1810. Yn wahanol i'r lleill manteisiodd Nicander ar addysg yn Rhydychen lle hyfforddodd fel offeiriad Eglwysig; aeth oddi yno i rannau eraill o Gymru,[13] tra'r oedd Pedr Fardd yn athro ysgol yn Lerpwl am gyfran helaeth o'i oes.[14] Byddai'r gweddill, fodd bynnag, yn treulio'u bywydau cyfan i bob pwrpas yn Eifionydd neu ardaloedd cyfagos. Roedd Siôn Wyn yn glaf yn ei wely am gyfran helaeth o'i oes.

Troai Beirdd Eifionydd yn yr un cylchoedd ac roedd y cysylltiadau rhyngddynt yn fynych; fel y nodwyd uchod bu sawl un ohonynt yn athrawon barddol ar y lleill. Roedd cartref Robert ap Gwilym Ddu yn enwedig yn gyrchfan i'r cylch ac i eraill o Gymry diwylliannol yr ardal,[9] ac yn 1846 sefydlodd Ellis Owen 'Gymdeithas Lenyddol Eifionydd', gydag Eben Fardd a Nicander ymhlith y gwahoddedigion.[15] Roedd Pedr Fardd a Nicander yn gyfeillion ag Eben Fardd, ac roedd rhieni Nicander yn weision ar ffermydd Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn.[13] Byddai beirdd o rannau eraill o Gymru yn ymweld â'r cylch hefyd, megis Dafydd Ddu Eryri.
Rhyngddynt, enillodd Beirdd Eifionydd nifer fawr o gadeiriau a gwobrwyau Eisteddfodol eraill yn ystod y cyfnod cyn sefydlu'r Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd Dewi Wyn wobrau Eisteddfodol amrywiol yn 1805 ac 1811;[10] enillodd Pedr Fardd gadair yn 1826,[14] enillodd Eben Fardd gadeiriau yn 1824 (gyda'i gerdd enwog Dinistr Jerusalem) 1840 a 1858[11] ac enillodd Nicander gadair yn 1849.[13] Eithriad neilltuol i'r tuedd hwn oedd Robert ap Gwilym Ddu, a wrthodai cystadlu mewn Eisteddfodau.[16]
Arddull a Gwaddol Beirdd Eifionydd
[golygu | golygu cod]
- Prif Erthyglau: Robert ap Gwilym Ddu, Dewi Wyn o Eifion ac Eben Fardd
Cysylltir Beirdd Eifionydd gyda'r canu caeth yn bennaf er bod Robert ap Gwilym Ddu, Pedr Fardd, Eben Fardd a Nicander hefyd yn emynwyr medrus. I raddau helaeth, arhosodd Beirdd Eifionydd yn ffyddlon i'r mesurau caeth dros gyfnod pan oedd nifer cynyddol o feirdd yn eu cwestiynu: roeddynt i raddau helaeth yn barhad ac yn ddatblygiad o glasuriaeth beirdd y 18g, yn enwedig Goronwy Owen (1723-1769).[9][11] Er bod beirdd eraill fel Caledfryn (1801-1869) hefyd yn arddel syniadau tebyg gellid dweud bod y traddodiad neo-glasurol yma yn darfod gyda Beirdd Eifionydd. Yn wahanol i'r lleill, roedd Eben Fardd yn arloeswr hefyd yn y mesurau rhydd (ac yn enwedig y bryddest), ond serch hynny daliai i gyfansoddi awdlau hyd ddiwedd ei oes, gan ymgeisio'n aflwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol 1862 (roedd Nicander a Chaledfryn ymhlith y beirniad). Mae'r ffyddlondeb yma at y gynghanedd yn gwahaniaethu rhwng Beirdd Eifionydd a llawer o'u cyfoeswyr mewn rhannau eraill o Gymru, megis Gwallter Mechain (1761-1849), Ieuan Glan Geirionydd (1795-1855) ac Alun (1797-1840), a gefnodd ar y mesurau caeth wrth i'r 19g fynd rhagddi, ac a oedd hefyd yn fwy agored i ddylanwadau o'r tu allan i Gymru.
Mae hyn yn ei gwneud hi'n hawdd ystyried Beirdd Eifionydd fel grŵp ceidwadol, ac er bod hyn yn wir i ryw raddau ni ddylir gor-bwysleisio hyn: roeddynt yn arloesi o fewn y traddodiad caeth, a daeth Dewi Wyn yn fodel i feirdd diweddarach o ran yr awdl a'r englyn.[10] Awgrymodd Alan Llwyd bod awdlau eisteddfodol rhai beirdd Cymraeg yn dal i geisio efelychu Beirdd Eifionydd mor diweddar â chanol yr 20g.[17] Er bod ei ganu cynnar yn gadarn o fewn y traddodiad clasurol, yn ddiweddarach yn ei oes daeth Eben Fardd yn arloeswr yn y mudiad rhamantaidd,[11] er y gellid dadlau bod ei arddull yn symud i fod yn llai nodweddiadol o Feirdd Eifionydd wrth iddo ddatblygu i'r cyfeiriad yma.
O blith Beirdd Eifionydd mae'n bosib mai dylanwad Dewi Wyn oedd y pwysicaf, gyda'i waith yn fodel i feirdd y mesurau caeth am gyfnod hir.[10] Ei awdl ef ar Elusengarwch (1819) oedd un o awdlau mwyaf dylanwadol ei oes er nad enillodd y wobr y cyfansoddwyd hi ar ei chyfer.[1] Fodd bynnag, er bod W. J. Gruffydd yn cydnabod bod Dewi Wyn yn un o "feirdd pwysicaf y ganrif," ystyriai ei ddylanwad yn un negyddol ar y cyfan a bod ansawdd ei gynnyrch ar y cyfan yn wael iawn.[18] Ystyriai Gruffydd fodd bynnag bod Robert ap Gwilym Ddu yn "artist mwyaf yn yr iaith Gymraeg a welodd can mlynedd a hanner o brydyddiaeth" ac mai Eben Fardd oedd "pinacl uchaf yr awdlwyr eisteddfodol".[8] Mae beirniaid ers oes Gruffydd wedi tueddu i gytuno ag ef i raddau helaeth: "...anodd yw cysoni canmoliaeth ormodol Robert ap Gwilym Ddu i Ddewi Wyn â'r safon uchel a gadwodd ef ei hun yn y rhan fwyaf o'i waith."[19] Er nad oedd Robert ap Gwilym Ddu yn adnabyddus iawn yn ei ddydd, yn rannol oherwydd ei fod yn gwrthod cystadlu mewn eisteddfodau, ystyrir ef heddiw yn un o feirdd caeth gorau'r cyfnod.[9] Ym maes yr Englyn roedd, chwedl R. M. Jones, yn ragflaenydd i R. Williams Parry a beirdd caeth ail hanner yr 20g;[20] roedd hefyd yn emynwr pwerus; felly hefyd Eben Fardd a Pedr Fardd.[21] Er y tueddir i feirniadu Eben Fardd am anghysondeb ei waith,[22] fe'i cydnabyddir hyd heddiw fel un o feirdd pwysicaf a gorau y cyfnod.[21][11][23] Ystyrir ei awdl ef Dinistr Jerusalem yn un o awdlau Eisteddfodol gorau'r Gymraeg cyn yr ugeinfed ganrif.[24][25][26]
Cymharol fychan yw bri y gweddill o Feirdd Eifionydd erbyn heddiw o'u cymharu â Robert ap Gwilym Ddu, Dewi Wyn o Eifion ac Eben Fardd; er y perchir Pedr Fardd yn maes yr emyn. Maent oll yn ymddangos yn achlysurol mewn blodeugerddi. Yn 1914 cyhoeddwyd Prif-feirdd Eifionydd Edward David Rowlands, casgliad o farddoniaeth gan chwech o Feirdd Eifionydd (hepgorir Ellis Owen) a deunyddiau eraill ganddynt ac amdanynt. Mae'r saith bardd wedi eu cynrychioli yn Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg gan Robert ap Gwilym Ddu (17 o gerddi), Eben Fardd (12), Nicander (12, 11 ohonynt o Ddamhegion Aesop), Dewi Wyn o Eifion (9), Pedr Fardd (5), Ellis Owen (3) a Siôn Wyn (1). Yn Blodeugerdd o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg Bedwyr Lewis Jones (sy'n fyrrach o lawer), cynrychiolir Beirdd Eifionydd gan Robert ap Gwilym Ddu (5 cerdd), Eben Fardd (3), Ellis Owen a Nicander (1 yr un).
Beirdd diweddarach o Eifionydd
[golygu | golygu cod]Mae'n bosib mai'r bardd enwocaf o Eifionydd ers cyfnod Beirdd Eifionydd oedd Eifion Wyn (1867-1926). Cysylltir R. Williams Parry (1884-1956) a'i gefnder T. H. Parry-Williams (1887-1975) â'r ardal weithiau, ac ysgrifennodd Parry-Williams gerdd enwog amdani, ond o Arfon roedd y ddau mewn gwirionedd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 W. J. Gruffydd (1925) 'Dewi Wyn o Eifion', Y Llenor, Cyf. 4, Rh. 1-4, tt.9-24
- ↑ Thomas Parry (1976), 'Emynwyr Eifionydd', Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, Cyf. 1, rh. 9, Gorffennaf 1976 tt.245-257
- ↑ Branwen Jarvis, 'Adolygiad', Y Traethodydd, Cyf. CXXXIX (590-593), 1984, t.105
- ↑ R. Maldwyn Thomas (1997) 'Inc Duw', Cristion, 83, Gorff./Awst 1997 t.8
- ↑ 5.0 5.1 Edward David Rowlands (1914) Prif-feirdd Eifionydd, Caernarfon: Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig
- ↑ Glyn Tegai Hughes, "Life and Thought" yn Branwen Jarvis (gol.) (2000) A Guide to Welsh Literature c.1700-1800, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.4
- ↑ 7.0 7.1 E. G. Millward (1968) 'Eben Fardd' yn Gwŷr Llên y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Llandybie: Llyfrau'r Dryw, t.32-33
- ↑ 8.0 8.1 W. J. Gruffydd (1925) 'Dewi Wyn o Eifion', Y Llenor, Cyf. 4, Rh. 1-4, t10
- ↑ 9.0 9.1 9.2 9.3 "WILLIAMS, ROBERT ('Robert ap Gwilym Ddu'; 1766 - 1850), bardd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ 10.0 10.1 10.2 10.3 "OWEN, DAVID ('Dewi Wyn o Eifion '; 1784 - 1841), amaethwr a bardd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ 11.0 11.1 11.2 11.3 11.4 "THOMAS, EBENEZER ('Eben Fardd'; 1802 - 1863), ysgolfeistr a bardd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ Eben Fardd (2024) Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill, Melin Bapur, t.38
- ↑ 13.0 13.1 13.2 "WILLIAMS, MORRIS ('Nicander '; 1809 - 1874), clerigwr a bardd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ 14.0 14.1 "JONES, PETER ('Pedr Fardd '; 1775 - 1845), bardd ac emynydd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ "OWEN, ELLIS (1789-1868), amaethwr, hynafiaethydd, a bardd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ Meic Stephens [gol.] (1997) Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, t.785
- ↑ Alan Llwyd (2006) Y Gaer Fechan Olaf: Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1937-1950, Cyhoeddiadau Barddas, t.163
- ↑ W. J. Gruffydd (1925) 'Dewi Wyn o Eifion', Y Llenor, Cyf. 4, Rh. 1-4, t24
- ↑ Stephen J. Williams (1968) 'Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn o Eifion' yn Gwŷr Llên y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Llandybie: Llyfrau'r Dryw, t.19
- ↑ Jones, R. M. (1988) 'Rhagymadrodd' yn Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Barddas. t.19
- ↑ 21.0 21.1 Jones, R. M. (1988) 'Rhagymadrodd' yn Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Barddas. t.22
- ↑ Millward, E.G., 'Agweddau ar waith Eben Fardd', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1980, tt246-7.
- ↑ Rhys, Robert (1999) 'Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg' yn Gwnewch Bopeth yn Gymraeg: Yr Iaith Gymraeg a'i Pheuoedd, 1801-1911. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t.256
- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1997), t.195
- ↑ W. J. Gruffydd, "Eben Fardd", Y Llenor (1926), t.252
- ↑ Bedwyr Lewis Jones (1965) Blodeugerdd o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Aberystwyth: Cymdeithas Llyfrau Ceredigion, t.viii