Peter Jones (Pedr Fardd)

Oddi ar Wicipedia
Peter Jones
FfugenwPedr Fardd Edit this on Wikidata
Ganwyd17 Medi 1775 Edit this on Wikidata
Garndolbenmaen Edit this on Wikidata
Bu farw26 Ionawr 1845 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg oedd Peter Jones (17 Medi 177526 Ionawr 1845), sy'n adnabyddus dan ei enw barddol Pedr Fardd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd a magwyd Pedr Fardd yng Ngarndolbenmaen, Eifionydd (Gwynedd) yn 1775. Symudodd i Lerpwl ac yno y bu'n cadw ysgol am y rhan fwyaf o'i oes.[1]

Roedd yn adnabyddus yn ei ddydd am ei awdlau a chywyddau eisteddfodol, ond er ei fod yn gynganeddwr llithrig nid oes llawer o werth llenyddol i'r cerddi hyn. Mae rhai o'i gerddi mwy personol yn well, e.e. pan mae'n sôn am ei hiraeth am Gymru.[1]

Mater arall yw ei emynau, sy'n cynnwys 'Cyn llunio'r byd, cyn lledu'r nefoedd wen', 'Daeth ffrydiau melys iawn yn llawn fel lli', 'Mae'r iachawdwriaeth rad yn ddigon i bob rhai', 'Un a gefais imi'n gyfaill; pwy fel Efe?', 'Hyfryd lais efengyl hedd sydd yn galw pawb i'r wledd' a 'Yr holl frenhiniaethau a dreulir, a'r ddelw falurir i'r llawr'.[1] Ystyrir ef yn un o brif emynwyr y Gymraeg.

Mae ei gartref yn dal i'w weld, yn adfail, yng Ngarndolbenmaen, i'r dwyrain o ganol y pentref ar ochr y mynydd. Mae stryd o dai cyngor yn y pentref wedi ei henwi ar ei ôl, sef Bro Pedr Fardd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • E. Wyn James, ‘ “Llawn Llafur yw Llynlleifiad”: Cyfrolau Pedr Fardd a’u Hargraffwyr’, yn Dyddiau o Lawen Chwedl: Hanner Can Mlwyddiant Cyhoeddiadau Modern Cymreig 1963-2013 ynghyd ag Ysgrifau ar Gyhoeddi yn Lerpwl a Chymru, gol. John Gwynfor Jones (Lerpwl: Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 2014), 142-85. ISBN 978-0-901332-93-6.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]