Antiquae Linguae Britannicae ... Rudimenta

Oddi ar Wicipedia
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolgramadeg Edit this on Wikidata


Llyfr gramadeg Cymraeg gan John Davies o Fallwyd yw'r Antiquae Linguae Britannicae ... Rudimenta (sef "Elfennau'r ... Iaith Brydeinig Hynafol"), a gyhoeddwyd yn 1621. Lladin - iaith ysgolheictod rhyngwladol y Dadeni Dysg - yw iaith y llyfr ar wahân i eiriau ac ymadroddion Cymraeg enghreifftiol yn y testun.

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Dyma waith mwyaf enwog y Dr John Davies (1567-1644). Yn ôl Thomas Parry yn ei gyfrol Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900, mae'r llyfr hwn yn "gampwaith mewn gramadeg" sy'n dangos mai John Davies oedd "un o dri neu bedwar ysgolhaig mwyaf Cymru."[1]

Yn ogystal â'r disgrifiad o ramadeg yr iaith Gymraeg, ceir pennod ar fesurau Cerdd Dafod ar ddiwedd y llyfr sy'n disgrifio'r Pedwar mesur ar hugain ac yn cymharu barddoniaeth Gymraeg a barddoniaeth Hebraeg.[1]

Rhagflaenir testun y gramadeg gan Lythyr Annerch at Edmwnd Prys, Archddiacon Meirionnydd.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Testun
  • John Davies, Antiquae Linguae Britannicae ... Rudimenta. Argraffwyd gan John Bill, Llundain, 1621.[2]
    • Adargraffiad ffacsimili. Scolar Press, Mamston, 1968.

Ceir cyfieithiad Cymraeg o'r rhagymadrodd Lladin yn,

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).
  2. 2.0 2.1 Ceri Davies, Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin 1551-1632.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]