Eisteddfod Caerfyrddin 1451

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Eisteddfod enwog a gynhaliwyd yn nhref Caerfyrddin tua'r flwyddyn 1450 neu 1451 oedd Eisteddfod Caerfyrddin. Mae'n adnabyddus fel yr achlysur pan ad-drefnwyd mesurau Cerdd Dafod gan Dafydd ab Edmwnd.

Er ei bod yn eithaf tebygol fod eisteddfodau eraill wedi eu cynnal yn yr Oesoedd Canol, dyma'r ail yn unig y gwyddys amdani cyn eisteddfodau Caerwys yn yr 16g (y gyntaf oedd Eisteddfod Aberteifi, 1176). Cynhaliwyd yr eisteddfod yng Nghastell Caerfyrddin dan nawdd Gruffudd ap Nicolas, arglwydd Dinefwr, un o ddisgynyddion tywysogion Deheubarth. Nid oes sicrwydd am y dyddiad, ac mae'n bosibl iddi gael ei chynnal rhai blynyddoedd yn ddiweddarach na'r dyddiad traddodiadol ar ôl i'r castell gael ei adnewyddu yn 1452-55. Daeth beirdd a cherddorion yno o bob rhan o Gymru. Y beirniad oedd Gruffudd ap Nicolas ei hun. Enillodd y bardd Dafydd ab Edmwnd gadair arian.

Tynnodd Dafydd ab Edmwnd ddau fesur allan o ganon yr hen fesurau caeth a rhoi ddau fesur eithriadol astrus o'i ben a'i bastwn ei hun i mewn. Ni wyddys os cawsant eu defnyddio yn yr eisteddfod honno, ond yn Eisteddfod Caerwys yn 1523 gosodwyd y rheol fod rhaid i fardd fedru canu ar y pedwar mesur ar hugain. Er mor anymarferol oedd rhai o'r mesurau, bwriad y gyfundrefn newydd oedd ceisio cadw bwlch rhwng y beirdd llys a'r beirdd llai a elwir yn Glêr (beirdd crwydrol tebyg i finstreliaid).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Hywel Teifi Edwards, Yr Eisteddfod (1971)