Edern Dafod Aur
Edern Dafod Aur | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gramadegydd |
Blodeuodd | 1280 |
Gramadegydd Cymraeg canoloesol oedd Edern Dafod Aur (neu Edeyrn (neu Edyrn) Dafod Aur) (bl. 13g efallai). Mae'n adnabyddus yn bennaf fel "awdur" tybiedig Dosparth Edeyrn Dafod Aur, fersiwn o ramadeg y beirdd a gyhoeddwyd yn y 19g.
Tystiolaeth
[golygu | golygu cod]Ychydig iawn a wyddys amdano. Ceir cyfeiriadau dilys ato mewn rhai o gerddi Beirdd yr Uchelwyr. Cyfeiria Gruffudd Hiraethog (m. 1564) at "dafod Edern" mewn awdl foliant i Elis Prys o Blas Iolyn. Cyfeiria Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan at "ddull Edern Dafod Aur" yn ei farwnad i'r prifardd Tudur Aled (m. tua 1525).[1] Ceir cyfeiriad ato hefyd gan Dafydd Benwyn yn ei gywydd marwnad i'w athro barddol Rhisiart Iorwerth o Dir Iarll ym Morgannwg.[2]
Credir i Edern lunio dosbarth bychan ar lythrennau'r Gymraeg ac ar ffurfiau geiriau. Yn ôl yr hynafiaethydd John Davies o Fallwyd, blodeuai Edern tua 1280, ond mae'r gramadegau barddol sydd ar glawr heddiw yn dyddio o'r 15g.[3]
Ffugiad Iolo Morganwg
[golygu | golygu cod]Tadogodd y ffugiwr traddodiadau Iolo Morganwg fersiwn o ramadeg y beirdd arno, efallai ar sail y cyfeiriad gan Dafydd Benwyn (gweler uchod), a'i gysylltu â Thir Iarll a Morgannwg.[4] Ond cysylltir y llyfrau gramadeg barddol canoloesol gyda Dafydd Ddu Athro o Hiraddug ac Einion Offeiriad. Cyhoeddwyd testun gwallus a chamarweiniol wrth y teitl Dosparth Edeyrn Davod Aur gan John Williams (Ab Ithel) ar ran y Welsh Manuscripts Society yn 1856.[5] Oherwydd y cyhoeddiad hwnnw a chyfeiriadau eraill gan Iolo Morganwg, daeth Ede[y]rn Dafod Aur yn adnabyddus i Gymry darllengar ac eraill a ymddiddorai yn y traddodiad barddol Cymraeg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Testun Dosparth Edeyrn Davod Aur ar gael ar lein ar wefan Internet Archive.