Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | gramadeg, llyfr ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1567 ![]() |
Llyfr gramadeg Cymraeg gan Gruffydd Robert (c. 1527-1598) yw Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg. Cyhoeddwyd y rhan gyntaf ym Milan yn yr Eidal ar Ddydd Gŵyl Ddewi, 1567. Mae'r ail ran, ar y rhannau ymadrodd (cyfiachyddiaeth), yn ddi-ddyddiad, ond yn debyg o fod wedi ymddangos yn 1584 neu 1585.[1]
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
Mae'r ddwy ran gyntaf yn defnyddio ffurf ymgom mewn gwinllan rhwng Gr. (Gruffydd Robert ei hun) a Mo. (sef Morys Clynnog, ewyrth Robert. Nid yw'r drydedd ran (tonyddiaeth) yn defnyddio'r un ffurf, efallai am fod Morys Clynnog wedi boddi tua 1581 a Carlo Borromeo, y cyfeirir ato fel meistr neu arglwydd Gruffydd Robert yn y gramadeg, wedi marw ym 1584. Mae'r rhannau eraill yn fyrrach: mae'r bedwaredd ran yn trafod y cynganeddion a mesurau cerdd dafod; y bumed ran yn darparu casgliad o gerddi; a chynnwys y chweched ran yw dechrau cyfieithiad De Senectute gan Cicero.[1]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
Ceir adargraffiad safonol o Ramadeg Gruffydd Robert gyda rhagymadrodd helaeth yn:
- G. J. Williams (gol.) Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1939)