Yr Ysgol Farddol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Gwerslyfr ar Gerdd Dafod gan David Watkin Jones (Dafydd Morganwg) yw Yr Ysgol Farddol, a gyhoeddwyd ganddo ef ei hun yn 1869.[1] Bwriadwyd y llyfr i fod yn ganllaw safonol i ddeall a chyfansoddi barddoniaeth Gymraeg ar y mesurau caeth.

Cynnwys[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r llyfr ar ffurf 'holi ac ateb' rhwng disgybl ('Ifor') ac athro ('Arthur'). Bu'n llyfr poblogaidd gan redeg i bedwar argraffiad yn oes yr awdur ei hun. Nid yw'n llyfr safonol erbyn heddiw, fodd bynnag. Un o'i ddiffygion yw'r ffaith fod yr awdur yn derbyn ffugiadau Iolo Morganwg ac yn rhoi pwyslais mawr ar "Ddosbarth Morgannwg" fel y'i ceir yn y gyfrol Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain gan Iolo. Er hynny, cymeradwywyd y llyfr gan rai o feirdd amlycaf y 19g, yn cynnwys Mynyddog a Hwfa Môn.[2]

Yr argraffiad olaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddwyd 4ydd argraffiad yn 1904; dyma'r argraffiad olaf. Erbyn dechrau'r 20g roedd gwerslyfr Dafydd yn dechrau ymddangos yn hen ffasiwn, yn enwedig gyda thwf y feirniadaeth newydd ym myd llenyddiaeth Gymraeg dan arweiniad John Morris-Jones ac eraill. Ymwelodd y llenor Watcyn Wyn, un o hen gyfeillion Dafydd, â'r bardd yn ei gartref yng Nghaerdydd yn haf 1904. Roedd Dafydd yn wael ei iechyd. Yn ôl Watcyn Wyn,

"Yr oedd tua llwyth cart o'r argraffiad diweddaf o'r Ysgol Farddol, wedi eu rhwymo'n ddestlus, yn gorwedd yn bentwr y'nghongl yr ystafell yno, a Dafydd yn achwyn yn dost nad oedd neb am eu prynu heb hocan am y pris."[3]

Bu farw Dafydd Morganwg y flwyddyn nesaf, ar Ebrill 25, 1905.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  2. Yr Ysgol Farddol (4ydd argraffiad, 1904), tt. xiv-xvi.
  3. Watcyn Wyn, 'Dafydd Morganwg', Y Geninen, Cyfrol XXIII (1905), tud. 201.
  4. Watcyn Wyn, 'Dafydd Morganwg', Y Geninen, Cyfrol XXIII (1905), tud. 202.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]