Dwyrain Aberpennar

Oddi ar Wicipedia
Dwyrain Aberpennar
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 2017 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.685035°N 3.376644°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001016 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auVikki Howells (Llafur)
AS/auBeth Winter (Llafur)
Map

Cymuned a ward etholiadol yn Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Dwyrain Aberpennar. Mae'n cynnwys yn bennaf rhan o dref Aberpennar sydd i'r dwyrain o'r Afon Cynon. Ffurfiwyd y gymuned yn 2016 pan rannwyd hen gymuned Aberpennar yn Ddwyrain a Gorllewin i gyd-fynd â ffiniau'r wardiau.

Hanes a disgrifiad[golygu | golygu cod]

Daeth cymuned Dwyrain Aberpennar i rym ar 1 Rhagfyr 2016 yn dilyn deddfu Gorchymyn (Cymunedau) Rhondda Cynon Taf 2016.[1] Mae'n cynnwys pentref Aberpennar i'r dwyrain o'r Afon Cynon a hefyd pentrefi'r Drenewydd, Caegarw, Cwmpennar a Chefnpennar.[2]

Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y gymuned boblogaeth o 2,990.[3]

Mae Dwyrain Aberpennar yn cynnwys Eglwys restredig Gradd II y pentref, Eglwys y Santes Farged, a ddyluniwyd gan John Pollard Seddon.[4]

Ward etholiadol[golygu | golygu cod]

Roedd ward etholiadol Dwyrain Aberpennar yn bodoli eisoes yn y gymuned. Etholodd y ward un cynghorydd sir i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Ers 1995 cynrychiolwyd y ward ar y cyngor gan gynghorydd Plaid Cymru, Pauline Jarman,[5][6] a fu gynt yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Cwm Cynon. Safodd etholiad am y tro cyntaf yn 1976.[7]

Roedd y Cynghorydd Jarman wedi bod yn arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Rhondda Cynon Taf ers 1996.[7] Roedd niferoedd Plaid Cymru wedi dyblu i 18 ar ôl etholiad Mai 2017 a dyma oedd yr wrthblaid swyddogol ar y cyngor.[8]

Yn dilyn adolygiad ffiniau llywodraeth leol, unwyd wardiau Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar i greu un ward newydd yn Aberpennar, gan ethol dau gynghorydd. Safodd Pauline Jarman mewn etholiad yn y ward newydd yn etholiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2022,[9] er iddi fethu ag ennill sedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Rhondda Cynon Taf (Communities) Order 2016" (PDF). Legislation.gov.uk. Cyrchwyd 2 Ebrill 2018.
  2. Election maps, Ordnance Survey; adalwyd 7 Ebrill 2018
  3. City Population; adalwyd 22 Gorffennaf 2023
  4. Church of St Margaret - A Grade II Listed Building in Mountain Ash, Rhondda Cynon Taff, British Listed Buildings; adalwyd 7 Ebrill 2018
  5. Rhondda Cyon Taff County Borough Council Election Results 1995-2012, The Election Centre; adalwyd 7 Ebrill 2018
  6. County Borough Council Elections 2017, Rhondda Cynon Taf County Borough Council; adalwyd 7 Ebrill 2018
  7. 7.0 7.1 Thomas Deacon, Ruth Mosalski (25 Ebrill 2017). "These are the contenders to lead Rhondda Cynon Taf council after May's local elections". Wales Online. Cyrchwyd 7 Ebrill 2018.
  8. Thomas Deacon (5 May 2017). "Labour clings on to power as Plaid Cymru surge isn't enough to win power in Rhondda Cynon Taf". Wales Online. Cyrchwyd 7 Ebrill 2018.
  9. Anthony Lewis (29 Ebrill 2022). "The predicted key seats during Rhondda Cynon Taf's council election". Wales Online. Cyrchwyd 18 Mehefin 2022.