Dafydd Elis-Thomas
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Elis-Thomas | |||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon | |||||||||||||||||||||||||||
Yn ei swydd 3 Tachwedd 2017 – 12 Mai 2021 | |||||||||||||||||||||||||||
Prif Weinidog | Carwyn Jones Mark Drakeford | ||||||||||||||||||||||||||
Rhagflaenwyd gan | Ken Skates | ||||||||||||||||||||||||||
Dilynwyd gan | Dawn Bowden | ||||||||||||||||||||||||||
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru | |||||||||||||||||||||||||||
Yn ei swydd 12 Mai 1999 – 11 Mai 2011 | |||||||||||||||||||||||||||
Rhagflaenwyd gan | Swydd newydd | ||||||||||||||||||||||||||
Dilynwyd gan | Rosemary Butler | ||||||||||||||||||||||||||
Aelod o Senedd Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd Meirionnydd Nant Conwy (1999–2007) | |||||||||||||||||||||||||||
Yn ei swydd 6 Mai 1999 – 6 Mai 2021 | |||||||||||||||||||||||||||
Rhagflaenwyd gan | Swydd newydd | ||||||||||||||||||||||||||
Dilynwyd gan | Mabon ap Gwynfor | ||||||||||||||||||||||||||
Mwyafrif | 8,868 (40.1%) | ||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||
Manylion personol | |||||||||||||||||||||||||||
Ganwyd | Dafydd Elis Thomas 18 Hydref 1946 Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin | ||||||||||||||||||||||||||
Plaid wleidyddol | Annibynnol | ||||||||||||||||||||||||||
Cysylltiadau gwleidyddol arall | Plaid Cymru (1970–2016) | ||||||||||||||||||||||||||
Priod | Elen Williams Mair Parry Jones (presennol) | ||||||||||||||||||||||||||
Plant | 3 |
Gwleidydd Cymreig yw Dafydd Elis-Thomas, Barwn Elis-Thomas neu'r Arglwydd Elis-Thomas (ganwyd 18 Hydref 1946). Bu'n Aelod Seneddol dros Blaid Cymru yn San Steffan rhwng 1974 ac 1992 ac mae'n aelod o Cyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig. Daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi yn 1992.
Yn 1999 fe'i etholwyd yn Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionnydd dros ran Plaid Cymru. Daeth yn Llefarydd cyntaf y Cynulliad o'r cychwyn yn 1999 hyd at 2011. Fe'i ail-etholwyd i'r Cynulliad yn Mai 2016 ond gadawodd Blaid Cymru ym mis Hydref gan aros fel aelod annibynnol hyd ei ymddeoliad cyn etholiad Mai 2021.[1]
Mae'n Llywydd Prifysgol Bangor ac yn Llywydd Anrhydeddus Searchlight Cymru yn ogystal.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd Dafydd Elis-Thomas yng Nghaerfyrddin, yn fab i weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a chafodd ei fagu yn Llandysul a Llanrwst.[2][3] Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1964 – 1970 lle cafodd ddoethuriaeth mewn Athroniaeth ac Astudiaethau Llenyddol.
Fe’i etholwyd yn Aelod Seneddol yn Chwefror 1974, yr un adeg â Dafydd Wigley, pan etholwyd dau aelod seneddol Plaid Cymru, ac yn dilyn etholiad mis Hydref, dri aelod seneddol am y tro cyntaf. Ar y cychwyn, ef oedd yr aelod ieuengaf yn y Tŷ Cyffredin. Gadawodd y lle hwnnw ym 1983 ac ym 1992 fe’i henwebwyd i fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, fel y Barwn Elis-Thomas.
Yn Hydref 2016, pum mis ar ôl ei ail-ethol, penderfynodd adael Plaid Cymru oherwydd yn ei eiriau ef "nad oes unrhyw fwriad gan Plaid i chwarae rhan fwy cadarnhaol yn y Cynulliad". Dywedodd cangen Dwyfor Meirionnydd o Blaid Cymru y dylai galw is-etholiad ond dywedodd Elis-Thomas nad oedd ganddo unrhyw fwriad i wneud hynny.
Eisteddodd fel aelod annibynnol ers hynny. Ar 3 Tachwedd 2017 ymunodd â chabinet Llywodraeth Cymru gan gymryd swydd oedd wedi bod yn wag am flwyddyn sef y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.
Cyhoeddodd ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru 12 Ebrill 2020 nad oedd yn sefyll yn Etholiad nesaf y Senedd yn 2021. Ar ôl ystyriaeth hir dywedodd nad oedd yn cystadlu yn Dwyfor Meirionnydd yn 2021, ond dywedodd fod yna lawer o ffyrdd eraill o wasanaethu'r cymdeithas. Dywedodd ar y rhaglen "Mae 'na fwy i fod yn ddinesydd da na bod yn wleidydd etholedig am fwy na 40 mlynedd.
"Gan 'mod i yn cyrraedd, neu wedi cyrraedd, y cyfnod yna o gynrychioli Meirionydd beth bynnag - onid yn gwbl gyson ar hyd y cyfnod yna - am fwy na deugain mlynedd, fydda fo ddim yn gwneud llawer o synnwyr i sefyll etholiad gan wybod y byddwn i'n 78 erbyn diwedd y Cynulliad nesa."[4][5]
Personol
[golygu | golygu cod]Ym 1970 priododd Elen M. Williams ac mae ganddynt dri mab. Wedi ysgariad, bu'n bartner i Marjorie Thompson, cadeirydd CND. Ym 1993 priododd Mair Parry Jones ac maent yn byw yn Llandaf, Caerdydd pan fo'n gweithio yng Nghaerdydd ac ym Betws-y-Coed fel arall. Yng nghofnodion swyddogol Sant Steffan cyfeirir ato fel "Dafydd Elis Elis-Thomas".[6]
Proffesiynol
[golygu | golygu cod]Dyma rai o'i swyddi proffesiynol:
- Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg: rhwng 1994 a 1999
- Cyn-aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru
- Cyn-aelod o'r British Film Institute lle roedd yn Gadeirydd Screen rhwng 1992 a 1999
- Cyfarwyddwr ac Is-gadeirydd Cynefin Environmental Ltd. rhwng 1992 a 1999
- Tiwtor Cymraeg yng Ngholeg Harlech[7] ac yn Llywydd Prifysgol Bangor ers 2000.
- Aelod o Gorff Llywodraethol Yr Eglwys yng Nghymru
Llenor
[golygu | golygu cod]Mae'n awdur ar nifer o lyfrau gan gynnwys Cyfansoddi Ewrop - Helaethu Ffiniau.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Edwards |
Aelod Seneddol dros Feirionnydd 1974 – 1983 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Feirionnydd Nant Conwy 1983 – 1992 |
Olynydd: Elfyn Llwyd |
Rhagflaenydd: Bernadette Devlin |
Baban y Tŷ 1974 |
Olynydd: Hélène Hayman |
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Aelod Cynulliad dros Feirionnydd Nant Conwy 1999 – 2007 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionnydd 2007 – 2021 |
Olynydd: Mabon ap Gwynfor |
Seddi'r cynulliad | ||
Rhagflaenydd: Dim |
Llywydd y Cynulliad 1999 – 2011 |
Olynydd: Rosemary Butler |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: Dafydd Wigley |
Llywydd Plaid Cymru 1984 – 1991 |
Olynydd: Dafydd Wigley |
|
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ bbc.co.uk; adalwud 15 Hydref 2016.
- ↑ "Dafydd Elis-Thomas AM". BBC Democracy Live website. BBC. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-24. Cyrchwyd 3 Mai 2013.
- ↑ "Dafydd Elis-Thomas AM". Gwefan Plaid Cymru. Plaid Cymru. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-10. Cyrchwyd 3 Mai 2013.
- ↑ "Dafydd Elis-Thomas ddim am geisio adennill ei sedd". BBC Cymru Fyw. 2020-04-12. Cyrchwyd 2020-04-12.
- ↑ Rhaglen radio, Dewi Llwyd ar fore Sul. "Dim bwriad i ailsefyll - Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd". BBC Sounds - radio Cymru.
- ↑ London Gazette: no. 53056. p. 15921. 23 Medi 1992.
- ↑ Manylion bywgraffiadol ar wefan wleidyddol y BBC, 1 Medi 1999; Adalwyd 30 Rhagfyr 2015
- Aelodau Cyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999–2003
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2003–2007
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007–2011
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011–2016
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016–2021
- Aelodau Llywodraeth Cymru
- Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig dros etholaethau Cymreig
- Arglwyddi am oes
- Arweinwyr Plaid Cymru
- Genedigaethau 1946
- Gwleidyddion Cymreig yr 20fed ganrif
- Gwleidyddion Cymreig yr 21ain ganrif
- Gwleidyddion Plaid Cymru
- Pobl o Sir Gaerfyrddin