William Henry Edwards (Aelod Seneddol)
William Henry Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 6 Ionawr 1938 Amlwch |
Bu farw | 16 Awst 2007 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwleidydd a chyfreithiwr oedd William Henry Edwards, neu Wil Edwards (6 Ionawr 1938 – 17 Awst 2007).
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni yn Amlwch, Ynys Môn, ac aeth i Ysgol Syr Thomas Jones yn y dref honno ac wedyn fel myfyriwr i Brifysgol Lerpwl. Bu'n gyfreithiwr yn Y Bala, Corwen a Wrecsam.
Safodd yn aflwyddiannus yn etholiad cyffredinol 1964 yng Ngorllewin Fflint dros y Blaid Lafur.
Safodd yn etholaeth Meirion ym 1966 ar ymddeoliad T.W. Jones gan gadw'r sedd yn weddol gyffyrddus. Cafodd ei ystyried yn aelod ifanc talentog yn ei ddyddiau cynnar yn San Steffan gan gael ei godi yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Cledwyn Hughes, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y llywodraeth Llafur newydd.
Cafodd Edwards ei ail-ethol ym 1970, gan guro Dafydd Wigley i'r ail safle. Deth y Blaid Lafur yn wrthblaid ar ôl etholiad 1970 a bu Edwards yn un o lefarwyr yr wrthblaid ar Gymru o dan yr Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol George Thomas[1]
Roedd Edwards yn gefnogwr brwd o'r Farchnad Gyffredin (yr Undeb Ewropeaidd bellach) - ar adeg pan oedd yn achos rhwyg yn y Blaid Lafur. Ym 1972 roedd yn un o 69 gwrthryfelwyr Llafur a bleidleisiodd o blaid ymuno â'r Farchnad Gyffredin yn groes i chwip ei blaid, gan hynny cafodd ei ddiswyddo gan Arweinydd yr Wrthblaid Harold Wilson fel llefarydd ar faterion Cymreig.[2]
Collodd ei sedd yn Etholiad Cyffredinol mis Chwefror 1974 i Dafydd Elis Thomas ymgeisydd Plaid Cymru. Safodd eto ym Meirion yn etholiad mis Hydref yr un flwyddyn gan fethu cipio'r sedd yn ôl.
Ar ôl i Lafur golli'r etholaeth i’r Torïaid ym 1979, cafodd Wil Edwards ei enwebu yn ymgeisydd seneddol Llafur ar gyfer Ynys Môn, ond oherwydd ei anniddigrwydd gyda gogwydd ei blaid i'r chwith o dan arweinyddiaeth Michael Foot tynnodd ei enw yn ôl. Dyna oedd diwedd ei yrfa fel gwleidydd.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cofiant yn The Independent 28 Awst 2007 http://www.independent.co.uk/news/obituaries/will-edwards-463249.html Archifwyd 2012-10-13 yn y Peiriant Wayback adalwyd hydref 14 2013
- ↑ Cofiant yn The Guardian Medi 5 2007 http://www.theguardian.com/news/2007/sep/05/guardianobituaries.obituaries3 adalwyd Hydref 14 2013
- ↑ Cofiant ar Flog gan Tom Watson AS http://www.tom-watson.co.uk/obituaries/will-edwards-2007 Archifwyd 2013-09-27 yn y Peiriant Wayback adalwyd Hydref 14 2013
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Thomas William Jones |
Aelod Seneddol dros Feirionnydd 1966 – 1974 |
Olynydd: Dafydd Elis Thomas |