Ysgol Syr Thomas Jones

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Syr Thomas Jones
Mathysgol uwchradd, ysgol ddwyieithog Edit this on Wikidata
LL-Q9309 (cym)-Cefni1-Ysgol Syr Thomas Jones (Q8059754).wav Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1950 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAmlwch Edit this on Wikidata
SirCymuned Amlwch Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr55.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.4027°N 4.3518°W Edit this on Wikidata
Cod postLL68 9TH Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Ysgol uwchradd gyfun dwyieithog Cymraeg a Saesneg ar gyrion Amlwch, ar Ynys Môn, yw Ysgol Syr Thomas Jones. Lleolir yr ysgol ym Mhentrefelin, ychydig i'r gogledd-orllewin Amlwch. Y prifathro presennol yw Dylan Jones.

Ystadegau[golygu | golygu cod]

Mae tua 550-600 o blant yn yr ysgol a tua 50 o athrawon. Mae yna 6 aelod yn y tim bugeilio sef, pennaeth, dirpwy, 3 pennaeth cynorthwyol ac 1 pennaeth cynhwysiant ac lles. Presenoldeb blynyddol yr ysgol ar gyfartaledd yw 94.9%. Mae tua 32 ystafell ddysgu yn yr ysgol.

Hanes yr Ysgol[golygu | golygu cod]

Adeilad yr ysgol

Cafodd yr ysgol ei hadeiladu 5 mlynedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd ond ar y pryd, bwriad Syr Thomas Jones oedd adeiladu ysbyty. Roedd yn meddwl y byddai yna drydedd ryfel byd. Dyna'r rheswm pam fod y coridorau mor llydan - er mwyn i gwlau ysbyty gael teithio o un pen yr 'ysbyty' i'r llall. Mae yna dwneli o dan yr ysgol sy'n mynd am filltiroedd rhag ofn i'r gelyn fomio.[angen ffynhonnell] Roedd Ynys Môn wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer addysg gynhwysfawr ers 1936: yr ysgol gynhwysfawr bwrpasol hon yw'r enghraifft gynharaf o agwedd arloesol Ynys Môn tuag at addysg uwchradd yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, yr ysgol gyntaf o'r fath yng Nghymru ac yn ôl y son ym Mhrydain. Dechreuwyd ym 1948, i ddyluniadau pensaer y sir, N.Squire Johnson; gosodwyd y garreg sylfaen gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, D R Hardyman; agorodd yr ysgol yn swyddogol ym 1950 a chwblhawyd y gwaith adeiladu ym 1952. Fel ysgol eithriadol o gynnar ar ôl y rhyfel, cynlluniwyd yr adeilad i fanyleb uchel ar gyfer adeiladau addysgol nad oedd bob amser yn cael ei gynnal yn ei olynwyr: er enghraifft, mae ganddi haelioni gofodol. cynllunio gan gynnwys campfeydd ar wahân ar gyfer bechgyn a merched, neuadd a ffreutur ar wahân. Felly mae'n cynrychioli mynegiant clir iawn o arfer gorau ar gyfer adeiladu addysg uwchradd ar ôl y rhyfel. Nid yw'r ysgol wedi newid fawr ddim ers agor, er bod rhai ystafelloedd ysgol wedi'u hychwanegu yng nghefn yr ysgol, a theatr fodern wedi'i hadeiladu mewn cangen o flociau ystafell ddosbarth anghyfnewidiol, ar ddiwedd y C20.

Traddodiadau[golygu | golygu cod]

Yn yr ysgol mae llawer o ddigwyddiadau bob blwyddyn:

  • Ar ddechrau pob blwyddyn mae seremoni wobrwyo yn cael ei gynnal
  • Pob Nadolig mae na 'Santa Run' lle mae'r plant a rhai athrawon yn rhedeg neu gerdded 1 milltir, mae pawb yn gallu prynu siocled poeth a bisgedi.
  • Mae yr ysgol yn casglu arian i Comic Relief neu 'Sport Relief'
  • Mae eisteddfod ysgol yn cael ei gynnal pob blwyddyn.
  • Casglu arian i Macmillan bob blwyddyn trwy cynnal bore coffi.

Gwisg[golygu | golygu cod]

Gwisg Ysgol[golygu | golygu cod]

Mae'n rhaid i ddisgyblion wisgo crys-T glas golau hefo y bathodyn, siwmper glas tywyll, trowsus sgert ddu ac esgidiau du. Ar gyfer y chweched dosbarth bydd rhaid gwisgo siwmper ddu, crys gwyn, tei, trowsus neu sgert ddu ac esgidiau du.

Gwisg Ymarfer Corff[golygu | golygu cod]

Gwisg ymarfer corff yw, yn y Gaeaf; legins du, esgidiau pêl-droed, sanau hir glas, siwmper las a crys-t gwyn. Yn yr haf; crys-t gwyn, legins du, a threinyrs rhedeg.

Eisteddfod yr Urdd[golygu | golygu cod]

Pob blwyddyn mae yna eisteddfod cylch ac eisteddfod sir yn yr ysgol. Mae'n gyfle i'r disgyblion cynradd ganu, adrodd a dawnsio.

Eisteddfod Ysgol[golygu | golygu cod]

Mae'r ysgol yn cynnal ei Eisteddfod ei hun bob blwyddyn hefyd. Mae'r disgyblion ac athrawon wedi'i rhannu i mewn i dair grwp; Eilian sy'n liw coch, Eleth sy'n liw glas a Padrig sy'n lliw melyn. Mae'r Eisteddfod yn cymryd diwrnod cyfan ar gyfer yr holl weithgareddau cyn i'r Prifathro gyhoeddi'r canlyniadau. Mae hyn yn gyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn cystadlaethau canu, adrodd, dawnsio ac ati.

Cyn-ddisgyblion enwog[golygu | golygu cod]

Ysgolion cynradd yng nhylgylch yr ysgol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]