Gruffydd Wyn
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Gruffydd Wyn | |
---|---|
Ganwyd | 1996 ![]() |
Man preswyl | Amlwch ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | canwr ![]() |
Canwr opera o Gymro yw Gruffydd Wyn Roberts.
Yn 2018 cyrhaeddodd Gruffydd y rownd derfynol yng nghyfres Britain's Got Talent. Yn ei glyweliad canodd y gân "Un Giorno Per Noi" cyn i Simon Cowell ei stopio a gofyn am gân arall. Canodd "Nessun dorma" gan gael ymateb mawr o'r dorf. Ar ddiwedd y perfformiad gwasgodd Amanda Holden ei seiniwr aur gan sicrhau ei le yn y rownd derfynol.[1]
Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]
Fe'i magwyd yn Amlwch, Ynys Mon gyda'i fam a'i nain. Nid oedd yn nabod ei dad nes oedd yn 16 mlwydd oed. Mae'n ffan mawr o rygbi ac yn chwarae i Glwb Rygbi Benllech ac yn ysgrifennydd cymdeithasol y clwb. Mae'n gweithio yng nghanolfan Pontio ym Mangor.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Britain's Got Talent Welsh Golden Buzzer opera singer Gruffydd Wyn reveals real story about his family history". BT.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-19.
- ↑ What we know about Gruffydd Wyn Roberts - the Britain's Got Talent golden boy who blew everyone away with his amazing voice (en) , Daily Post, 20 Mai 2018. Cyrchwyd ar 20 Gorffennaf 2018.