Amgueddfa Werin Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1954765 (translate me) |
→ffynhonnellau: man gywiriadau, replaced: Ffynonell → ffynhonnell using AWB |
||
Llinell 351: | Llinell 351: | ||
Ffilmwyd y rhan fwyaf o benodau ''[[Doctor Who]]'' "[[Human Nature (pennod Doctor Who)|Human Nature]]" a "[[The Family of Blood]]" yn Sain Ffagan. |
Ffilmwyd y rhan fwyaf o benodau ''[[Doctor Who]]'' "[[Human Nature (pennod Doctor Who)|Human Nature]]" a "[[The Family of Blood]]" yn Sain Ffagan. |
||
== |
== ffynhonnellau == |
||
{{Comin|Category:St Fagans National History Museum|Amgueddfa Werin Cymru}} |
{{Comin|Category:St Fagans National History Museum|Amgueddfa Werin Cymru}} |
||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
Fersiwn yn ôl 22:19, 17 Mawrth 2013
Amgueddfa awyr-agored sy'n cofnodi hanes phensaerniaeth, diwylliant a ffordd o fyw y Cymry yw Amgueddfa Werin Cymru. Mae'n rhan o Amgueddfa Cymru. Lleolir yr amgueddfa yn nhiroedd castell Sain Ffagan, ar gyrion Caerdydd.
Mae'r amgueddfa yn nodedig am ei chasgliad o adeiladau traddodiadol a symudwyd yno o bob rhan o Gymru, carreg wrth garreg. Mae'n gofnod gwerthfawr o hanes y genedl ac er mwyn arddangos ac astudio agweddau ar ddiwylliant Cymru o'r 15fed ganrif ymlaen, gan gynnwys pensaernïaeth draddodiadol, crefftau, offer amethyddol, llên gwerin, dillad, ac ati. Mae yno hefyd nifer o dai Celtaidd wedi'u codi ac arteffactau o'r cyfnod ynghyd ag elfen o ail-greu ac ail-actio cyfnod o'n hanes.
Hanes
Syniad y bardd a'r arbenigwr llên gwerin Iorwerth C. Peate oedd sefydlu'r amgueddfa, ar sail Skansen, sef amgueddfa awyr-agored pensaerniaeth brodorol Sweden yn Stockholm. Ond roedd rhan fwyaf o adeiladau Skansen yn rai pren, a byddai amgueddfa tebyg yng Nghymru yn naturiol yn fwy uchelgeisiol ocherwydd fod adeiladau brodorol Cymru wedi eu adeiladu o gerrig yn bennaf. Dechreuwyd y gwaith o ddatblygu'r amgueddfa ym 1946 yn dilyn y rhodd o'r castell a'i thiroedd gan Iarll Plymouth, agorodd yn swyddogol ym 1948. Peate oedd y curadur cyntaf, ac fe'i olynwyd gan Trefor M. Owen.
Adeiladau yn Amgueddfa Werin Cymru
Llun | Enw | Dyddiad | Ail-godwyd | Safle wreiddiol | Sir (traddodiadol) |
Sir (presennol) |
Nodiadau pellach |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Pentre Celtaidd | — | 1992 | Sain Ffagan | — | Caerdydd | Replica ar sail adfeilion yng Ngwynedd, Sir y Fflint a Swydd Gaerwrangon.[1] | |
Ffermdy Hendre'r Ywydd Uchaf | 1508[2] | 1962 | Llangynhafal | Sir Ddinbych | Sir Ddinbych | ||
Delwedd:IMG 1268.jpg | Eglwys Sant Teilo | 1100 - 1520 | 2007[2] | Llandeilo Tal-y-Bont, Pontarddulais | Sir Forgannwg | Abertawe | Ymddengys fel yr oedd tua 1510-30[3] |
Ffermdy Cilewent | Dechreuwyd 1470
(Ffurf bresennol: 1734) |
1959 | Llansanffraid Cwmdeuddwr, Rhaeadr Gwy | Sir Drefaldwyn | Powys | ||
Y Garreg Fawr | 1544[2] | 1984 | Waunfawr | Sir Gaernarfon | Gwynedd | ||
Ysgubor Stryd Lydan | tua 1550 | 1951 | Llannerch Banna | Sir y Fflint | Wrecsam | [4] | |
Castell Sain Ffagan | 1580 | — | Sain Ffagan | Sir Forgannwg | Caerdydd | ||
Ysgubor Hendre Wen | Tua 1600 | 1982 | Llanrwst | Sir Ddinbych | Conwy | ||
Talwrn | 17eg ganrif | 1970 | Hawk and Buckle Inn, Dinbych | Sir Ddinbych | Sir Ddinbych | ||
Ffermdy Kennixton | 1610 | 1955 | Llangynydd | Sir Forgannwg | Abertawe | ||
Ffermdy Abernodwydd | 1678 | 1955 | Llangadfan | Sir Faldwyn | Powys | ||
Efail | 18fed ganrif | 1972 | Llawr-y-Glyn | Sir Drefaldwyn | Powys | ||
Tanerdy | hwyr yn y 18fed ganrif | 1968 | Rhaeadr Gwy | Sir Drefaldwyn | Powys | ||
Melin wlân Esgair Moel | 1760 | 1952 | Llanwrtyd | Sir Frycheiniog | Powys | ||
Bwthyn Llainfadyn | 1762 | 1962 | Rhostryfan | Sir Gaernarfon | Gwynedd | ||
Bwthyn Nant Wallter | Tua 1770 | 1993 | Taliaris | Sir Gaerfyrddin | Sir Gaerfyrddin | ||
Tolldy | 1772 | 1968 | Penparcau, Aberystwyth | Sir Aberteifi | Ceredigion | ||
Capel Pen Rhiw | 1777 | 1956 | Dre-fach Felindre | Sir Gaerfyrddin | Sir Gaerfyrddin | ||
Beudy Cae Adda | 18fed–19eg ganrif | 2003 | Waunfawr | Sir Gaernarfon | Gwynedd | ||
Twlc mochyn | tua 1800 | 1977 | Hendre Ifan Prosser | Sir Forgannwg | Rhondda Cynon Taf | ||
Bythynnod Rhyd-y-Car | Tua 1800 | 1986 | Rhyd-y-Car, Merthyr Tudful | Sir Forgannwg | Merthyr Tudful | Chwech o dai teras wedi eu creu i gynrychioli chwe chyfnod cronolegol yn ystod y diwydiant haearn: 1805, 1855, 1895, 1925, 1955, 1985 | |
Ffermdy Llwyn-yr-Eos | Dechreuwyd 1820 | — | Sain Ffagan | Sir Forgannwg | Caerdydd | Fferm wreiddiol o ystâd Castell Sain Ffagan. Agorwyd fel rhan o'r amgueddfa ym 1989. | |
Melin ŷd Bompren | 1852– | 1977 | Cross Inn | Ceredigion | |||
Sied wair | 1870 | 1977 | Maentwrog | Gwynedd | Dim ond y tirfeddianwyr cyfoethocaf oedd yn codi'r fath siediau gwair ar gyfer eu deiliaid.[5] | ||
Tŷ haf | tua 1880 | 1988 | Parc Bute, Caerdydd | Sir Forgannwg | Caerdydd | ||
Siop Gwalia | 1880 | 1991 | Cwm Ogwr, ger Pen-y-bont ar Ogwr | Sir Forgannwg | Pen-y-bont ar Ogwr | Ymddengys fel yr oedd yn y 1920au | |
Ysgol Maestir | defnyddiwyd 1880–1916 | 1984 | Llanbedr Pont Steffan | Sir Aberteifi | Ceredigion | ||
Melin lifo | 1892 | 1994 | Tŷ'n Rhos, Llanddewi Brefi | Ceredigion | |||
Siop teiliwr | 1896 (ymhelaethwyd 1920au) | 1992 | Cross Inn | Ceredigion | |||
Crochendy Ewenni | tua 1900 | 1988 | Ewenni | Sir Forgannwg | Bro Morgannwg | ||
Popty'r Dderwen | 1900 | 1987 | Thespian Street, Aberystwyth | Sir Aberteifi | Ceredigion | Caewyd 1924 | |
Institiwt y Gweithwyr | 1916 | 1995 | Oakdale, Y Coed Duon | Sir Fynwy | Caerffili | ||
Gweithdy Cyfrwywr | 1926 | 1986 | Sanclêr | Sir Gaerfyrddin | Sir Gaerfyrddin | ||
Swyddfa bost | 1936 | 1992 | Blaen-waun, ger Hendy-gwyn ar Daf | Sir Gaerfyrddin | Sir Gaerfyrddin | Ymddengys fel yr oedd yn yr Ail Ryfel Byd[6] | |
Pre-fab | 1948 | 1998 | Gabalfa | Sir Forgannwg | Caerdydd | Ymddengys fel yr oedd tua 1950[7] | |
Tŷ Gwyrdd ("Tŷ'r Dyfodol" yn wreiddiol) |
2001[8] | — | Sain Ffagan | — | Caerdydd | Ar y cyd gyda'r BBC. Ysbrydolwyd gan ddulliau adeiladau traddodiadol a thechnoleg werdd.[9] |
Digwyddiadau
Mae'r amgueddfa wedi cynnal yr "Everyman Open Air Theatre Festival" (a ddechreuodd ym 1983) ers 1996,[10] pan symudwyd yno o Erddi Dyffryn ger Casnewydd. Mae'r ŵyl yn cynnwys drama Shakespeare, cynhyrchiad gerddorol a sioe ar gyfer y teulu, ac mae wedi dod yn ran elfennol o galendr theatr yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf.
Ffilmwyd y rhan fwyaf o benodau Doctor Who "Human Nature" a "The Family of Blood" yn Sain Ffagan.
ffynhonnellau
- ↑ Adeiladau Hanesyddol. Amgueddfa Werin Cymru.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Y Tuduriaid. Amgueddfa Werin Cymru.
- ↑ Symud eglwys ganoloesol i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Amgueddfa Cymru: Rhagor.
- ↑ Ysgubor Stryd Lydan, Amgueddfa Werin Cymru, 1 Mehefin 1951. Casglu y Tlysau. Cyrchwyd 3 Mehefin 2010
- ↑ Perthyn - St. Fagans Museum (Excerpt) | Scribd (Saesneg). Cyrchwyd 3 Mehefin 2010.
- ↑ Swyddfa Bost lleiaf Cymru yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Amgueddfa Cymru: Rhagor.
- ↑ Cartref parhaol ar gyfer tŷ dros dro: y pre-fab yn Sain Ffagan. Amgueddfa Cymru: Rhagor.
- ↑ House for the Future. Carpenter Oak & Woodland.
- ↑ Tŷ Gwyrdd. Amgueddfa Werin Cymru.
- ↑ Everyman Open Air Theatre Festival