Tegeingl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Nodyn |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{ |
{{Teyrnasoedd Cym}} |
||
[[Cantref]] yng ngogledd-ddwyrain [[Cymru]] oedd '''Tegeingl'''. Fe'i enwir ar ôl y [[Deceangli]], un o [[Llwythau Celtaidd Cymru|lwythau Celtaidd Cymru]] yn [[Oes yr Haearn]] a'r [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|cyfnod Rhufeinig]]. |
[[Cantref]] yng ngogledd-ddwyrain [[Cymru]] oedd '''Tegeingl'''. Fe'i enwir ar ôl y [[Deceangli]], un o [[Llwythau Celtaidd Cymru|lwythau Celtaidd Cymru]] yn [[Oes yr Haearn]] a'r [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|cyfnod Rhufeinig]]. |
||
Fersiwn yn ôl 16:26, 7 Mawrth 2013
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies) | |
Cantref yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd Tegeingl. Fe'i enwir ar ôl y Deceangli, un o lwythau Celtaidd Cymru yn Oes yr Haearn a'r cyfnod Rhufeinig.
Mae'r cantref yn gorwedd yn nwyrain y Berfeddwlad ar arfordir y Gogledd rhwng Afon Clwyd yn y gorllewin a Glannau Dyfrdwy yn y dwyrain. I'r gorllewin mae'n ffinio â chantrefi Rhos a Rhufoniog, yn y de-orllewin â chwmwd Dogfeiling yng nghantref Dyffryn Clwyd, ac yn y de-ddwyrain ag Ystrad Alun a Phenarlâg. Roedd y diriogaeth yn cyfateb yn fras i Sir y Fflint heddiw.
Yn Oes y Tywysogion roedd Tegeingl yn cynnwys tri chwmwd Rhuddlan, Prestatyn a Cwnsyllt. Perthynai'r cantref i dywysogion cynnar teyrnas Gwynedd, ond a ddiwedd yr 8fed ganrif fe'i goresgynwyd gan y Mersiaid, gelynion mawr Gwynedd a Phowys. Arosodd yn nwylo'r Saeson a'r Normaniaid nes i Owain Gwynedd ei adfer i Wynedd yn y 12fed ganrif. Newidiai ddwylo sawl gwaith yn yr ymgiprys rhwng tywysogion Gwynedd a Choron Lloegr yn y ganrif olynol.
Rhuddlan oedd ei ganolfan, ond roedd Diserth yn bwysig hefyd. Yn ddiweddarach sefydlwyd mynachlog yn Ninas Basing.