Pedwar mesur ar hugain

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Y pedwar mesur ar hugain)
Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Y Pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. Fe'i cysylltir yn bennaf ag enwau Einion Offeiriad a Dafydd Ddu Hiraddug, dau fardd a geisiodd osod trefn ar y mesurau caeth yn y 14g. Yn ddiweddarach cafodd y Pedwar mesur ar hugain eu newid rywfaint gan Dafydd ab Edmwnd a'u defnyddio felly yn Eisteddfod gyntaf Caerwys (1523).

Camgymeriad fyddai tybied fod y mesurau hyn yn cael eu defnyddio'n rheolaidd gan y beirdd. Gan amlaf anwybyddid y rhan fwyaf ohonynt ac eithrio mewn ambell gerdd enghreifftiol fel gorchest lenyddol. Maent yn cynnwys wyth math o englyn, pedwar math o gywydd a deuddeg o fesurau eraill. Dyfeisiwyd tri o'r mesurau gan Einion Offeiriad yn y llyfr a adnabyddir fel Gramadeg Einion Offeiriad. Ar ganol y 15g, tynnodd Dafydd ab Edmwnd ddau fesur allan (sef yr englyn penfyr a'r englyn milwr a rhoi dau fesur eithriadol astrus o'i ben a'i bastwn ei hun i mewn, sef Gorchest Beirdd a Chadwynfyr.

Digwyddodd hynny yn Eisteddfod Caerfyrddin, yn 1451[1]. Ni wyddys a gawsant eu defnyddio yn yr eisteddfod honno, ond yn Eisteddfod Caerwys yn 1523 gosodwyd y rheol fod rhaid i fardd fedru canu ar y Pedwar Mesur ar Hugain. Er mor ymarferol oedd rhai o'r mesurau, bwriad y gyfundrefn oedd ceisio cadw bwlch rhwng y beirdd llys a'r beirdd llai a elwir yn Glêr (beirdd crwydrol tebyg i finstreliaid).

Y Mesurau[golygu | golygu cod]

Mesurau Dafydd ab Edmwnd[golygu | golygu cod]

Yn ôl dosbarthiad Dafydd ab Edmwnd, y Pedwar Mesur ar Hugain yw :

  1. Englyn unodl union
  2. Englyn unodl crwca
  3. Englyn cyrch
  4. Englyn proest cyfnewidiog
  5. Englyn proest cadwynog
  6. Awdl-gywydd
  7. Cywydd deuair hirion
  8. Cywydd deuair fyrion
  9. Cywydd llosgyrnog
  10. Rhupunt byr
  11. Rhupunt hir
  12. Cyhydedd fer
  13. Byr-a-thoddaid
  14. Clogyrnach
  15. Cyhydedd naw ban
  16. Cyhydedd hir
  17. Toddaid
  18. Gwawdodyn byr
  19. Gwawdodyn hir
  20. Hir-a-thoddaid
  21. Cyrch-a-chwta
  22. Tawddgyrch cadwynog
  23. Gorchest beirdd
  24. Cadwynfyr

Pan ofynnid am awdl yn yr Eisteddfod Genedlaethol, disgwylid awdl ar y nifer a fynner o fesurau Dafydd ap Edmwnd yn aml rhwng 1938 a 1964. Hynny yw; y pedwar mesur ar hugain gan gynnwys yr englyn penfyr a'r englyn milwr er i Ddafydd eu diarddel o'i restr.

Yr Hen XXIV Mesur[golygu | golygu cod]

Dyma'r Pedwar Mesur ar Hugain fel y'u nodir yn Cerdd Dafod, John Morris-Jones:[2]

Englynion:

  1. Englyn Penfyr
  2. Englyn Milwr
  3. Englyn Unodl Union
  4. Englyn Unodl Crwca
  5. Englyn Cyrch
  6. Englyn Proest Dalgron
  7. Englyn Lleddfbroest
  8. Englyn Proest Cadwynog

Cywyddau:

  1. Awdl-Gywydd
  2. Cywydd Deuair Hirion
  3. Cywydd Deuair Fyrion
  4. Cywydd Llosgyrnog

Awdlau:

  1. Rhupunt
  2. Cyhydedd Fer
  3. Byr-a-thoddaid
  4. Clogyrnach
  5. Cyhydedd Naw Ban
  6. Cyhydedd Hir
  7. Toddaid
  8. Gwawdodyn
  9. Gwawdodyn Hir
  10. Hir-a-thoddaid
  11. Cyrch-a-chwta
  12. Tawddgyrch Cadwynog

Mesurau Dafydd Ddu Athro[golygu | golygu cod]

Dyma restr o'r pedwar mesur ar hugain yn ôl Dafydd Ddu Athro ar ôl iddo olygu Gramadeg Einion Offeiriad tua chanol y 14g. Fel hyn y safai'r gyfundrefn cyn 1451, ac yn ôl y rhestr hon y canodd Dafydd Nanmor ei awdl enghreifftiol.

Englynion

  1. Englyn Penfyr
  2. Englyn Milwr
  3. Englyn Unodl Union
  4. Englyn Unodl Crwca
  5. Englyn Cyrch
  6. Englyn Proest Cyfnewidiog
  7. Englyn Proest Cadwynog

Cywyddau

  1. Awdl-gywydd
  2. Cywydd deuair hirion
  3. Cywydd deuair fyrion
  4. Cywydd llosgyrnog

Awdlau

  1. Rhupunt byr
  2. Rhupunt hir
  3. Cyhydedd Fer
  4. Byr-a-Thoddaid
  5. Clogyrnach
  6. Cyhydedd Nawban
  7. Cyhydedd Hir
  8. Toddaid
  9. Gwawdodyn Byr
  10. Gwawdodyn Hir
  11. Hir-a-thoddaid
  12. Cyrch-a-chwta
  13. Tawddgyrch Cadwynog

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Anghenion y Gynghanedd gan Alan Llwyd; Gwasg Prifysgol Cymru
  2. Cerdd Dafod gan John Morris-Jones, Rhydychen, 1925