Englyn penfyr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Englyn Penfyr)
Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae mesur yr Englyn Penfyr yn ymdebygu i'r Englyn Unodl Union ond heb y llinell olaf. Yn yr englyn hwn ceir toddaid byr wedi'i ddilyn gan linell seithsill gynganeddol sy'n cadw i'r un brifodl. Gall y llinell olaf fod yn acennog neu'n ddiacen.

Defnyddir y mesur gan Gwilym R Tilsley yn ei awdl Cwm Carnedd. Dyma'r englyn penfyr sy'n cloi'r awdl:

Yn y Foelas a'r Villa – onid oes
Neb dyn a breswylia?
Dim ond Saeson hinon ha.

Mewn awdlau, tueddir i weld cyfres o englynion penfyr, fel y gyfres sy'n cloi'r awdl "Gwanwyn" o waith y Prifardd Alan Llwyd. Gall y mesur sefyll ar ei ben ei hun yn ogystal, ond anaml y ceir hynny. Eithriadol o brin yw enghreifftiau unigol o englynion penfyr nad ydynt yn rhan o gyfres neu'n rhan o awdl er bod perthynas agos iddo, yr Englyn unodl union, yn fesur y canwyd miloedd o enghreifftiau unigol arno.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.