Englynion Gwydion
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Englyn Gwydion)
Yr englynion a adroddodd Gwydion i alw Lleu Llaw Gyffes i lawr o'r dderwen yn y Mabinogi Math fab Mathonwy yw Englynion Gwydion. Cadwyn o dri englyn cyrch ydyn nhw. Dyma'r testun (Fersiwn Cymraeg Diweddar):
Derwen a dyf rhwng dau lyn
yn cysgodi'n dawel awyr a glyn;
oni ddywedaf i gelwydd,
o flodau Lleu y mae hyn.
Derwen a dyf mewn maes uchel,
nis gwlych glaw, nis tawdd gwres;
cynhaliodd ugain dawn
ar ei brig Lleu Llaw Gyffes.
Derwen a dyf dan lechwedd,
noddfa tywysog hardd;
oni ddywedaf i gelwydd
fe ddaw Lleu i'm harffed.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Ifans, Dafydd & Rhiannon, Y Mabinogion (Gomer 1980). ISBN 1-85902-260-X. Diweddariad.
- Ifor Williams (gol.), Pedair Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1937). Y testun Cymraeg Canol gwreiddiol (tud. 94).