Gwawdodyn byr

Oddi ar Wicipedia
Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae'r gwawdodyn byr yn un o'r pedwar mesur ar hugain ac felly'n fesur caeth. Dyma'r gwawdodyn gwreiddiol; pan ddatbygwyd y gwawdodyn hir yn ddiweddarach daethpwyd i wahaniaethu rhyngddynt trwy alw'r mesur gwreiddiol yn wawdodyn byr.

Ceir dwy ran: dwy linell o gyhydedd nawban naw sillaf yr un a ddaw gyntaf a thoddaid yn dilyn gyda chyfanswm o ddeg sillaf ynddo. Mae pob llinell yn cynnal yr un odl.

Ni chaniateir defnyddio'r gynghanedd lusg yn y llinell glo.

Dyma enghraifft gan Wiliam Llŷn:

Mawr y sych gwynt helynt hwyliad,
Mawr y gwlych y glaw pan ddel cawad,
Mawr gryfdwr yw'r dw^r ar doriad - gweilgi,
Mwy yw'r daioni ym mro Danad.

Dyma enghraifft arall o waith Dafydd Nanmor o'i awdl enghreifftiol i Ddafydd ap Tomas ap Dafydd. Cofier mai unsill yw gwayw:

Un llaw ydwyd ar wayw yn llidiog
 llaw Domas ar wayw lledemog;
Ef a'th ad Duw Dad odidog - deirgwart
Yn nhyrau Edwart yn hir oediog.

Erbyn heddiw, nid yw'r gwawdodyn byr cyn bobloged â pherthynas agos iddo, sef ffurf bedair llinell ar yr hir-a-thoddaid.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.