Hir-a-thoddaid
| Y pedwar mesur ar hugain |
| Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Un o'r pedwar mesur ar hugain ydy'r hir-a-thoddaid sy'n fesur caeth; fersiwn degsill o'r gwawdodyn hir ydyw gan fod y llinellau'n ddegsill yn hytrach na naw sillaf. Toddaid hir y gelwir y ddwy linell olaf mewn hir-a-thoddaid.
Mae diwedd pob llinell yn odli.
Dyma ddwy enghraifft allan o "Awdl Merch yr Amserau" gan Robin Llwyd ab Owain:
Mae fy nghân ifanc, mae fy nghynefin
Ynot a rhythm borewynt drwy eithin,
Wyt gyffro Giro mewn jins – sy'n datod.
I 'mwa hynod wyt ffidil Menuhin.
Lleuad y nos a fu'n tywallt drosot
A'i rhaeadr ieuanc o gytser drwot,
Minnau yn fflam ohonot, – Erin f'oes;
Rhannaf fy einioes, serennaf ynot.
Fel arfer, ceir chwe llinell mewn hir-a-thoddaid, dwy linell degsill ychwanegol ar y dechrau.
Un o brif feistri'r mesur hwn oedd y diweddar Brifardd ac Archdderwydd Dic Jones. Dyma ei hir-a-thoddaid sy'n cloi'r awdl "Cynhaeaf", a enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1966:
Tra bo dynoliaeth fe fydd amaethu
A chyw hen linach yn ei olynu,
A thra bo gaeaf bydd cynaeafu,
A byw greadur tra bo gwerydu,
Bydd ffrwythlonder tra pery – haul a gwlith,
Yn wyn o wenith rhag ein newynu.
Neu ran o'i awdl goffa, "Galarnad", i'w ferch Esyllt a fu farw'n ifanc:
Nid yw yfory yn difa hiraeth
Nac ymwroli'n nacau marwolaeth.
Fe ddeil pangfeydd ei alaeth – tra bo co',
Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth.