Rhupunt hir
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Un o'r pedwar mesur ar hugain ydyw'r rhupunt hir, sef un o'r mesurau caeth. Mae iddo bedair rhan, pob un yn bedair sillaf yr un. Mae un llinell, felly, yn 16 sillaf. Y patrwm odlau yma ydy a, b, a, b.
Mae diwedd chwarter cyntaf pob llinell yn odli gyda diwedd yr ail chwarter a'r trydydd chwarter; ac mae hwnnw yn creu cynghanedd (croes neu traws) gyda'r rhan olaf (y pedwerydd chwarter).
Dyma bennill o waith Tudur Aled:
- Pybyr nerthwr pob dierthwr,
- Pab, aberthwr, pawb a borthed;
- Pob llawenydd hyd Faelienydd,
- Pob awenydd, pawb a aned.
Gall pob traean ddiweddu'n acennog neu'n ddiacen ond fel arfer mae'r ddau draenau cyntaf o bob llinell yn ddiacen gyda'r odl yn odl ddwbwl, fel yn yr enghraifft uchod. Arferid hefyd cynganeddu'r ddwy ran gyntaf pan oeddent yn diweddu'n acennog.
O edrych ar bob cwpled fel un llinell, gwelir eu bod hefyd yn ffurfio math o gynghanedd sain, sef y gynghanedd sain deirodl.