Awdl-gywydd
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Awdl gywydd)
| Y pedwar mesur ar hugain |
| Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Cyfres o gwpledi dwy linell seithsill o gynghanedd sydd i'r mesur caeth hwn, yr Awdl-Gywydd (neu'r Awdl Gywydd) sef yr Awdl-gywydd. Fel arfer ceir dau gwpled ar ffurf y dyfyniad hwn gan y Prifardd W. D. Williams:
Ciliodd rhyfel a'i helynt;
Tiwniodd y gwynt newydd gainc;
Daeth melyster o sgerbwd,
Golau ffrwd o giliau Ffrainc.
Gwelir mai'r ail linell a'r bedwaredd sy'n cynnal y brifodl a bod odl gyrch rhwng y gyntaf a gorffwysfa'r ail ("helynt" a "gwynt").