Cyrch a chwta

Oddi ar Wicipedia
Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae Cyrch a chwta yn un o Bedwar Mesur ar Hugain Cerdd Dafod.

Llunnir cyrch a chwta gyda chwe llinell saith sillaf gyda phennill o awdl-gywydd yn eu dilyn, gan gynnal un brifodl. Dyma enghraifft o waith Goronwy Owen:[1]

Neud esgud un a'i dysgo,
Nid cywraint ond a'i caro,
Nid mydrwr ond a'i medro,
Nid cynnil ond a'i cano,
Nid pencerdd ond a'i pyncio,
Nid gwallus ond a gollo
Natur ei iaith, nid da'r wedd;
Nid rhinwedd ond ar honno.

Mae'r chwe llinell gyntaf yn odli, gydag aceniad y prifodlau yn rhydd. Odla'r llinell olaf gyda'r chwe llinell gyntaf, a cheir odl gyrch rhwng terfyn y seithfed linell a gorffwysfa'r llinell glo i gwblhau'r awdl-gywydd.

Yn ôl y llawysgrifau, un o'r tri mesur y meddyliawdd Einion Offeiriad amdanynt yw cyrch a chwta. Y ddau arall yw'r hir-a-thoddaid a'r tawddgyrch cadwynog.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925