Cywydd deuair fyrion
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Mae'r cywydd deuair fyrion yn un o'r pedwar mesur ar hugain ac yn cynnwys cyfres o linellau pedair sillaf o hyd ar gynghanedd. Mae pob cwpled yn diweddu gydag un llinell yn acennog a'r llall yn ddiacen a hynny mewn unrhyw drefn. Mae'r mesur hwn yn debyg iawn i'r cywydd deuair hirion ond yn llinellau 4 sill yn hytrach na 7 sill.
Mewn awdl, fel arfer y gwelir y cywydd deuair fyrion, yn hytrach nac ar ei ben ei hun.
Dyma enghraifft allan o 'Salm i Famon' gan John Morris Jones:
- Ond ef, mad oedd,
- Oediog ydoedd,
- Di lid ei law,
- Hir cyn taraw.
- Dwys bwys ei bai
- Oll ni allai,
- Na'i gŵyn na'i gwâd,
- Oeri'i gariad.
- O'i ged wedi
- Ei thost waith hi,
- Hwn anfonodd
- Ei fab o'i fodd,
- I'w throi i'w thref -
- Wiwdda addef.