Sgwrs Nodyn:Y pedwar mesur ar hugain

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ych-a-fi; mae'r Nodyn yma'n ddibersonoliaeth, a'i liwiau'n crensian yn fy mhen. Ga i ei addasu? Ac os caf, oes yna ryw fformiwla neu reolau sy'n deddfu pa liw sydd i ba bwnc? Llywelyn2000 22:10, 10 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Dwi'n cytuno, mae'n edrych yn uffernol! Dim rhaid i ti ofyn, gyfaill; basa unrhywbeth yn well na hyn! (ON cofia cadw'r darn bychan |} ar y gwaelod neu mi fydd y nodyn yn llenwi tudalen!). Anatiomaros 22:26, 10 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Diolch. Efallai y gwneith Rhys gymryd cip arno, os nad ydy e'n rhy brysur - mae'n bencampwr ar wneud i'r rhain edrych yn dda. Llywelyn2000 22:34, 10 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Dwi di goleuo fe lan ychydig a rhoi llun bach iddo! Fi'n mynd i chwarae o gwmpas efo'r lliwiau nawr! Rhys Thomas 15:14, 11 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Tra roeddwn yn y mood i neud nodiadau a blychau- fe wnes i'r ddau yma hefyd. Rhys Thomas 16:59, 11 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Gwaith ardderchog, Rhys. Mae'n edrych yn well o lawer ar ei newydd wedd! Bydd angen cysoni'r ffurf ar yr enwau - mae 'na rai erthyglau yn bod e.e. Cyhydedd Fer sy'n ddolenni coch ar y nodyn. Does dim rheol bendant ond mae gennym ni rai erthyglau gyda'r enwau yn dechrau gyda llythrennau mawr ac eraill gyda rhai bach. 'Cyhydedd Fer' sy gan J. M.-J. yn ei gyfrol Cerdd Dafod ond mae eraill yn ei sgwennu fel 'Cyhydedd fer'. Pa un gawn ni? Dim llawer o wahaniaeth ond dylen nhw i gyd fod yr un fath. Anatiomaros 17:23, 11 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Wel os dwi'n creu erthygl efo dau air, rwy wastad yn defnyddio llythyren fach am yr ail air. Efallai dylem symud Cyhydedd Fer i Cyhydedd fer. Rhys Thomas 17:35, 11 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu


Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Gret! Mae'n edrych yn wych, syml, di-lol ac i bwrpas. Gad y llythrennau bach / mawr i mi; dwi wedi dechrau ar y gwaith. Llywelyn2000 22:05, 11 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Problem[golygu cod]

Dydy'r dolenni 'gweld', 'sgwrs', 'golygu' ddim yn gweithio (yn arwain at dudalennau heb eu creu). Fedra rhywun drwsio hyn, os gwelwch yn dda? Anatiomaros 15:25, 3 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Wedi sortio, ond roedd rhaid i mi symud y dudalen. Rhaid i enw'r nodyn (yr hen enw oedd 24 mesur) fod yr un peth a theitl y blwch i'r cysylltiadau gweld, golygu..etc. i weithio (ac nid oedd 24 mesur yn addas ar gyfer teitl blwch). Mae'r nodyn {{24 mesur}} sydd ar yr erthyglau i gyd yn dal i weithio oherwydd yr ailgyfeiriad awtomatig. Cofion, Rhys Thomas 16:17, 3 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Diolch, Rhys. Wnes i feddwl am symud y nodyn ond doeddwn i ddim yn siwr a oedd 'na fodd trwsio fo heb wneud hynny. Diolch yn fawr! Anatiomaros 16:26, 3 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]