Cyhydedd fer
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Cyhydedd Fer)
| Y pedwar mesur ar hugain |
| Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Mesur caeth yw'r gyhydedd fer, sy'n perthyn yn agos i'r gyhydedd naw ban.
Mae pob llinell yn gynghanedd gyflawn gydag wyth sill. Fe'i cenir mewn pennillion o bedair llinell ar yr un odl. Dyma enghraifft o waith Lewys Glyn Cothi:
Dynion ydynt yn anedig
Wedy'u gadu'n fendigedig,
Ac o Dewdwr, lys gadwedig,
Ac o Idwal oedd wisgedig.
Pob rhyw adar pupuredig
Ynn a nodan' yn anedig;
Sy o fwydau yn safedig
A gâi wawdydd fai ddysgeidig.