Englyn unodl crwca

Oddi ar Wicipedia
Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mesur caeth yw'r englyn unodl crwca sy'n rhan o'r pedwar mesur ar hugain.

Llunnir yr englyn gyda chwpled o gywydd deuair hirion a thoddaid byr ar yr un brifodl. Ymdebyga i'r englyn unodl union, ond bod y lleoliadau'r paladr a'r esgyll wedi eu cyfnewid.

Dyma enghraifft o waith Dewi Wyn o Eifion:

Mae y gŵr yn ymguraw
A'i dylwyth yn wyth neu naw,
Dan oer hin yn dwyn y rhaw – mewn trymwaith
Bu ganwaith heb giniaw.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.