Toddaid byr

Oddi ar Wicipedia

Amrywiad bychan ar y toddaid yw'r toddaid byr. Ceir chwe sillaf yn yr ail linell yn hytrach na naw fel y ceir mewn toddaid cyffredin.

Cenir toddaid byr fel paladr englyn unodl union neu englyn penfyr. Ceir cynghanedd rhwng y gair cyrch a'r ail linell, ac y mae'r ail linell yn bengoll gan amlaf, oni bai bod cynghanedd sain yn cael ei defnyddio.

Dyma enghraifft o doddaid byr, sef paladr englyn enwog Tudur Aled i'r Gwreiddyn:[1]

Mae'n wir y gwelir argoelyn - difai
Wrth dyfiad y brigyn.

Mae'r ail linell yn bengoll gan nad yw y brigyn yn rhan o'r gyfatebiaeth.

Dyma enghraifft o doddaid byr gyda chynghanedd sain rhwng y gair cyrch a'r ail linell o waith y pencerdd Wiliam Llŷn:[2]

Llywelyn Gwilym llew hualog - aur
Braich henaur Brycheiniog.

Gall yr ail linell fod yn bengoll os defnyddir y Gynghanedd Sain Alun.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. T. Gwynn Jones, Gwaith Tudur Aled mewn dwy gyfrol, Gwasg Prifysgol Cymru, 1926
  2. J. C. Morrice, Barddoniaeth Wiliam Llŷn, Jarvis & Foster, 1908

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]