Cynghanedd Sain Alun
Gwedd
Math o gynghanedd a grewyd gan Alun y Cilie yw cynghanedd Sain Alun. Nid yw'n cael ei defnyddio'n aml iawn mewn barddoniaeth, ond gellir dweud ei bod yn cynyddu mewn poblogrwydd. Fe'i derbynnir bron yn ddi-wahân fel cynghanedd ddilys a chywir gan ei bod yn gynghanedd draddodiadol, ond bod ei safle yn yr englyn wedi'i addasu ychydig.
"Sain bengoll" yw enw arall arni; fe'i defnyddir yn y gair cyrch mewn paladr englyn, gyda'r orodl a'r rhagodl yn y gair cyrch.
- (llinell gyntaf englyn) - rhin y gwin
- Yn y gwynt (yna'r odl)
- (yna dwy linell ola'r englyn).
Fe welir uchod fod "rhin" a "gwin" yn odli â'i gilydd, yna'r "g" yn "gwin" yn cael ei hateb gyda "g" yn "gwynt".
Ceir hefyd ddefnydd o'r gynghanedd hon ym mhaladr englyn o waith T. Arfon Williams:
Mae'r ifainc mawr eu hafiaith – aeth Gatraeth
Un tro yn llawn gobaith?
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- John Morris-Jones, Cerdd Dafod (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925)
- Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd (Argraffiad diwygiedig, Cyhoeddiadau Barddas, 2007)
- Myrddin ap Dafydd, Clywed Cynghanedd (Gwasg Carreg Gwalch, 1994)