Neidio i'r cynnwys

Cynghanedd sain

Oddi ar Wicipedia

Math o gynghanedd yw'r gynghanedd sain, nodwedd hynafol mewn barddoniaeth Gymraeg. Yn wahanol i'r mathau eraill o gynghanedd, rhennir llinell o gynghanedd sain yn dair rhan. Ceir odl rhwng y ddwy ran gyntaf, a chyfatebiaeth gytseiniol rhwng yr ail a'r drydedd ran. Dyma un enghraifft o gynghanedd sain:

  • Estron, lladron a llwydrew.

Yma, mae "estron" a "lladron" yn odli. Yna, ceir cynghanedd gytseiniol rhwng "lladron" a llwydrew" i gwblhau'r gynghanedd sain.

Am ymdriniaeth lawn a chynhwysfawr, gweler y llyfryddiaeth safonol isod.

Enghreifftiau eraill

[golygu | golygu cod]
  • Tra môr yn fur i'r bur hoff bau
  • Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
  • Wylit, wylit Lywelyn
  • Adeg rhedeg drwy'r rhedyn
  • Ein calon gan estron ŵr

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]