Toddaid hir
Jump to navigation
Jump to search
Amrywiad bychan ar y toddaid yw'r toddaid hir. Ceir deg sillaf yn y llinell olaf yn hytrach na naw fel y ceir mewn toddaid cyffredin.
Cenir toddaid hir fel dwy linell olaf y mesur hir a thoddaid. Dyma enghraifft o waith Tudur Aled:[1]
- Gwrol, tra gwrol, trugarog - wrol:
- Ni bu dra gwrol na bai drugarog.
Cenid enghreifftiau cynnar yn bengoll, ond erbyn hyn, cynganeddir y llinell olaf ar ei hyd.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- John Morris-Jones, Cerdd Dafod (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ T. Gwynn Jones, Gwaith Tudur Aled mewn dwy gyfrol, Gwasg Prifysgol Cymru, 1926