Englyn unodl union

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Englyn Unodl Union)
Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Yr englyn unodl union yw'r mesur mwyaf poblogaidd[1] o'r Pedwar mesur ar hugain traddodiadol, ac ynghyd â'r cywydd deuair hirion, ymysg y ddau fesur pwysicaf. Erbyn heddiw, ceir cynghanedd ymhob llinell.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yng Nghanu Llywarch Hen a Chanu Heledd, defnyddir englynion penfyr ac englynion milwr, ond ers cyfnod Beirdd yr Uchelwyr, yr englyn unodl union yw'r englyn mwyaf poblogaidd, a daeth englyn yn gyfystyr ag englyn unodl union ar lafar.

Dangosodd Alan Llwyd fod y rhan ganlynol o'r Gododdin, a briodolir i Aneirin, bron yn dilyn patrwm englyn unodl union digynghanedd:

Am drynni drylaw drylenn
Am lwys am difiwys dywarchen
Am gwydaw gwallt e ar benn
Y am wyr eryr gwydyen.

trwy ei ysgrifennu fel hyn:

Am drynni drylaw drylenn – am lwys
Am difiwys dywarchen
Am gwydaw gwallt e ar benn
Y am wyr eryr gwydyen.

Canodd Cynddelw Brydydd Mawr dri englyn unodl union mewn coffa i'w fab, Dygynnelw. Ceisiodd yr ysgolhaig John Rhŷs brofi mai o'r Lladin y daeth y mesur hwn yn wreiddiol.

Nodweddion[golygu | golygu cod]

Englyn unodl union ar garreg fedd yn Eglwys Crist, Y Bala, Gwynedd.
'Price anwyl, pur ei wasanaeth...'
Englyn unodl union ar garreg fedd Eglwys Sant Cynog yn Llangynog

Mae'r englyn yn gyfuniad o ddau fesur, sef toddaid byr a'r cywydd deuair hirion. Gelwir y ddwy linell gyntaf, sef y toddaid byr, yn baladr yr englyn, a gelwir y ddwy linell olaf, sef y cywydd deuair hirion, yn esgyll yr englyn.

Rhennir deg sillaf y llinell gyntaf yn 7+3, 8+2 neu 9+1, ac yn dilyn y gwant, ceir y strac a'r gair cyrch. Os defnyddir y Gynghanedd draws neu'r Groes yn y rhwng y gair cyrch a'r ail linell, cynganeddir yr ail linell yn bengoll. Fe'i cynganeddir ar ei hyd os defnyddir y Gynghanedd Sain.

Dyma enghraifft gan Dewi Emrys:

Wele rith fel ymyl rhod – o'n cwmpas
Campwaith dewin hynod;
Hen linell bell nad yw'n bod,
Hen derfyn nad yw'n darfod.

Dyma englyn unodl union o waith Tudur Aled:

Mae'n wir y gwelir argoelyn – difai
Wrth dyfiad y brigyn:
Hysbys y dengys y dyn
O ba radd y bo'i wreiddyn.

Gellir canu cadwyn, cyfres neu osteg o englynion, ond mae'n fesur sy'n medru sefyll ar ei draed ei hun a cheir miloedd o enghreifftiau o englynion unigol.

Oriel o englynion ar gerrig beddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd (Fersiwn Newydd), Cyhoeddiadau Barddas, 2007

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]