Robert Williams (Trebor Mai)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Trebor Mai)
Robert Williams
FfugenwTrebor Mai Edit this on Wikidata
Ganwyd25 Mai 1830 Edit this on Wikidata
Llanrhychwyn Edit this on Wikidata
Bu farw5 Awst 1877 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, Teiliwr Edit this on Wikidata
Trebor Mai, tua 1870

Bardd oedd Robert Williams, neu Trebor Mai (25 Mai 18305 Awst 1877), a anwyd yn Llanrhychwyn, yn yr hen Sir Gaernarfon, gogledd Cymru.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Trebor Mai yn 1867

Ganwyd Robert Williams yn 1830, yn Tŷ'n yr Ardd ym mhentref bach Llanrhychwyn, yn y bryniau i'r gorllewin o bentref Trefriw, yn fab i Robert ac Ann Williams. Teiliwr wrth ei grefft oedd y tad. Yn fuan ar ôl ei eni symudodd y teulu i fwthyn arall yn yr un pentref, Ty'n y Coed.[1]

Cafodd y bardd ei addysg swyddogol yn ysgol gynradd Llanrhychwyn ac, am gyfnod byr, yn Ysgol Rad Llanrwst. Ond addysg Saesneg a gafodd yn yr ysgolion hynny; cafodd ei addysg Gymraeg yn yr Ysgol Sul leol yn y pentref a oedd yng ngofal y Methodistiaid Calfinaidd.[1]

Pan oedd Trebor Mai yn 13 oed symudodd y teulu i Lanrwst, bedair milltir i ffwrdd. Dechreuodd Trebor weithio fel prentis i'w dad. Dechreuodd Trebor fynychu eglwys yr Annibynwyr yn y dref, oedd yng ngofal y bardd a beirniad Caledfryn yr adeg honno. Yn 1854 priododd Robert ferch crydd o Lanrwst ac agorodd siop teiliwr ar ei liwt ei hun yn nhŷ o'r enw Yr Hen Fanc. Yn 1873 symudodd i Dros yr Afon a bu yno hyd ei farwolaeth o'r diciâu yn 1877, yn 47 oed.[1]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Bedd Trebor Mai, Llanrwst, c.1875

Nid yw'r enw barddol "Trebor Mai" ond enw y bardd wedi'i sgwennu o'r chwith (sef "I am Robert"). Mae Trebor Mai yn enghraifft ragorol o 'feirdd gwlad' y cyfnod; roedd ei dad yn barddoni a dysgodd Trebor Mai hanfodion y gynghanedd o gyfnod cynnar iawn. Arferai gyfansoddi wrth weithio yn nhai'r gymdogaeth (âi teilwriaid yr oes o dŷ i dŷ) ac yn fuan daeth yn enwog yn y fro am barodrwydd ei awen.[1]

Fel pob bardd cymerai ran yn yr eisteddfodau, mawr a bach. Am gyfnod roedd Caledfryn yn athro barddol iddo. Y prif ddylanwad llenyddol arno oedd gwaith Ieuan Glan Geirionydd. Roedd ganddo gylch eang o gyfeillion llengar, yn cynnwys Dewi Arfon a Scorpion. Gyda Gethin Jones a Gwilym Cowlyd sefydlodd Arwest Glan Geirionydd. Enillodd ei awdl "Y Gloch" Gadair Taliesin yn yr arwest ar lannau'r llyn yn 1875. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes, sef Fy Noswyl (1861) a Geninen (1869).[1]

Er nad oes llawer o werth parhaol i'r cerddi eisteddfodol a gyfansoddodd mae Trebor Mai yn adnabyddus hyd heddiw am ei englynion ffraeth a synhwyrol. Bardd ei fro a'i gymdeithas ydyw ac mae ei ganu ar ei orau pan mae'n canu i gyfeillion a chymdogion ar achlysuron llawen neu drist, yn disgrifio pethau bach bob dydd neu'n ymgolli yn swyn natur Dyffryn Conwy ac Eryri.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Isaac Foulkes (gol.), Gwaith Barddonol Trebor Mai (Lerpwl, 1883). Casgliad cynhwysfawr o'i gerddi, ynghyd â bywgraffiad llawn ffeithiau.
  • Robert Williams yn Y Bywgraffiadur Cymreig

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Isaac Foulkes (gol.), Gwaith Barddonol Trebor Mai (Lerpwl, 1883). Bywgraffiad.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: