Tansanïa

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Tanzania)
Neidio i: llywio, chwilio
Jamhuri ya Muungano wa Tanzania
Gweriniaeth Unedig Tansanïa
Baner Tansanïa Arfbais Tansanïa
Baner Arfbais
Arwyddair: "Uhuru na Umoja"
("Rhyddid ac Undod")
Anthem: Mungu ibariki Afrika
Lleoliad Tansanïa
Prifddinas Dodoma (swyddogol)
Dinas fwyaf Dar es Salaam
Iaith / Ieithoedd swyddogol Swahili (de facto)1
Llywodraeth Gweriniaeth
- Arlywydd Jakaya Mrisho Kikwete
- Prif Weinidog Mizengo Pinda
Annibyniaeth
- Tanganyika
- Zanzibar
- Uniad
o'r Deyrnas Unedig
9 Rhagfyr 1961
19 Rhagfyr 1963
26 Ebrill 1964
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
945,087 km² (31ain)
6.2
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2002
 - Dwysedd
 
37,849,133 (32ain)
34,443,603
40/km² (159ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$27.12 biliwn (99ain)
$723 (178ain)
Indecs Datblygiad Dynol (2004) 0.430 (162ain) – isel
Arian cyfred Swllt Tansanïa (TZS)
Cylchfa amser
 - Haf
EAT (UTC+3)
Côd ISO y wlad .tz
Côd ffôn +2552
1 Defnyddir Saesneg yn eang mewn busnes ac addysg.
2 007 o Cenia ac Wganda.

Gwlad yn nwyrain Affrica yw Gweriniaeth Unedig Tansanïa neu Tansanïa.[1] Mae'n ffinio ag Wganda a Chenia i'r gogledd, Rwanda, Bwrwndi a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo i'r gorllewin, Sambia, Malawi a Mosambic i'r de a Chefnfor India i'r dwyrain. Saif mynydd uchaf Affrica, Kilimanjaro, yng ngogledd-ddwyrain Tansanïa.

Mae yno boblogaeth o tua 45 miliwn o bobl o amrywiol ddiwylliannau, iaith a chrefydd. Yn swyddogol, diffinir y wlad fel 'Gweriniaeth Llywodraethol, Cyfansoddiadol' (presidential constitutional republic) ers 1996, a'i phrifddinas swyddogol yw Dodoma, ac yno hefyd mae Swyddfa'r Llywydd, y Cynulliad Cenedlaethol a llawer o swyddfeydd y Llywodraeth.[2] Yn Dar es Salaam, sef yr hen Brifddinas mae'r rhan fwyaf o swyddfeydd y Llywodraeth, a hi hefyd yw dinas fwya'r wlad, y prif borthladd a phrif ganolfan marchnata.[3][4][5]

Gwladychwyd y wlad gan Ewropead yn gyntaf yn niwedd y 19eg ganrif a hynny gan yr Almaenwyr ac yna'r Prydeinwyr wedi'r Ail Ryfel Byd. Llywodraethwyd y tir mawr Tanganyika ar wahân i ynysfor Sansibar, ond wedi iddynt ddod yn annibynol (yn 1961 ac yn 1963) cafwyd cytundeb rhyngddynt i uno, yn Ebrill 1964, gan ffurfio Gwladwriaeth Unedig Tansanïa.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Flag of Tanzania.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Dansanïa. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.