Hadsa

Oddi ar Wicipedia
Heliwr Hadsabe o ardal Llyn Eyasi, Tansanïa

Tylwyth brodorol o ogledd-canolbarth Tansanïa yw’r Hadsa (neu Hadsabe)[1]. Maent yn byw o amgylch Llyn Eyasi ac yng ngwastatir y Serengeti. Tua 1,000 ohonynt sydd wedi goroesi, gyda 3-400 o’r rhain yn dilyn yn rhannol y dull heliwr-gasglwr o fyw. Maent felly, ymhlith yr olaf ar y ddaear i ddilyn y patrwm hwn a fodolai cyn y datblygiad amaethyddiaeth a gafwyd tua 15,000-13,000 o flynyddoedd yn ôl. Nid oes ganddynt berthnasau DNA (genetegol) agos, ac nid yw perthynas eu hiaith i ieithoedd eraill (gan gynnwys y grŵp Khosa cyfagos) yn wybyddus.

Microbiom yr Hadsa[golygu | golygu cod]

Oherwydd natur ynysig eu hanes, mae gan cyllau (perfeddion) yr Hadsa amrywiaeth bacteria (microbiom) neilltuol o gyfoethog[2]. Gan fod ymchwil diweddar yn awgrymu fod amrywiaeth felly yn effeithio’n llesol ar nifer o glefydau sydd ar gynnydd yn y Gorllewin (megis y fogfa, clefyd siwgir a chlefydau awto-imiwn)[3], mae hyn o ddiddordeb arbennig i glinigwyr a dietegwyr. Mae’r clefydau hyn yn anghyffredin ymhlith yr Hadsa. Un gobaith y gwyddonwyr yw y gellir adfer bacteria llesol sydd wedi diflannu o boblogaethau'r Gorllewin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "The Hadza: last of the first (Cwmni Benenson Productions)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-06. Cyrchwyd 16 Mehefin 2017.
  2. (Saesneg) Schnorr, Stephanie (et al) (2014). "Gut microbiome of the Hadza hunter-gatherers". Nature Communications 5: Article number: 3654. https://www.nature.com/articles/ncomms4654?__hstc=223686340.3ddcb7e6221ba3e6a5bbfb7601d5305e.1474848000113.1474848000115.1474848000116.2&__hssc=223686340.1.1474848000116&__hsfp=1773666937.
  3. (Saesneg) Missing Microbes: How the Overuse of Antibiotics is Fueling Our Modern Plagues, Martin Blaser (Macmillan) [1]