Hawliau LHDT yn ôl gwlad neu diriogaeth

Oddi ar Wicipedia
Map yn dangos statws deddfau'r byd ar gyfunrywioldeb.
Cyfunrywioldeb yn gyfreithlon      Priodasau cyfunryw      Uniadau cyfunryw      Dim uniadau cyfunryw      Cydnabyddir trwyddedau priodas rhyngwladol Cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon      Cosb fach      Cosb fawr      Carchar am fywyd      Y gosb eithaf      Dim gwybodaeth ar gosb

Mae gan wledydd y byd amrywiaeth o ddeddfau sy'n ymwneud â pherthnasau rhywiol rhwng pobl o'r un rhyw. Mae fwyfwy o gymdeithasau rhyddfrydol, y mwyafrif yn y Gorllewin, yn caniatáu priodasau ac uniadau cyfunryw a phobl LHD i fabwysiadu plant yn gyfreithlon ac yn pasio deddfwriaeth trosedd casineb i ddiogelu hoywon, lesbiaid a deurywiolion, tra bo llawer o wladwriaethau crefyddol, yn enwedig yn y Byd Mwslemaidd, yn cosbi ymddygiad cyfunrywiol rhwng unigolion, sy'n amrywio o ddirwyon i'r gosb eithaf.

Yn ogystal â deddfau yn erbyn gweithredoedd cyfunrywiol, mae nifer o wledydd yn ystyried galw person yn gyfunrywiol yn sail ddigonol am achos llys difenwad.

Deddfwriaeth ar gyfunrywioldeb yn ôl gwlad neu diriogaeth[golygu | golygu cod]

Ewrop[golygu | golygu cod]

Cyfreithlondeb uniadau cyfunryw yn Ewrop.      Cydnabyddir priodas gyfunryw      Cydnabyddir uniadau cyfunryw      Cydnabyddir cyd-fyw anghofrestredig      Mater o dan ystyriaeth wleidyddol      Anghydnabyddedig neu ddim gwybodaeth      Priodas gyfunryw wedi ei gwahardd yn gyfansoddiadol

Er gwaethaf hanes hir o erledigaeth a gwahaniaethu yn erbyn pobl LHD, heddiw mae pump o'r saith gwlad sydd wedi cyfreithloni priodas gyfunryw wedi'u lleoli yn Ewrop, ac mae 17 o wledydd Ewropeaidd wedi cyfreithloni uniadau sifil.

Nid yn unig yw aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn ymofyn am ddiddymiad unrhyw ddeddfwriaeth wrth-gyfunrywiol, ond mae Cytundeb Amsterdam yn gorchymyn i ddeddfwriaeth wrth-wahaniaethu gael ei deddfu gan ei aelod-wladwriaethau.[1]

Gwlad Deddfau yn erbyn cyfunrywioldeb Cosb Uniadau cyfunryw Deddfau yn erbyn gwahaniaethu Mabwysiad Sylwadau
Gwlad Belg Dim
  • 1762: deddf yn erbyn cyfunrywioldeb yn cael ei diddymu; cyfreithlon ar gyfer unigolion dros 18[2]
  • 1985: oed cydsynio cyfartal (16)[2]
Priodas gyfunryw (ers 2003)[3][4] Oes[2] Oes (ers 2006)[5]
Y Deyrnas Unedig Dim
  • 1885: rhyw rhwng dynion yn anghyfreithlon[6]
  • 1967: cyfreithloni rhyw rhwng dynion dros 21[7]
  • 2000: oed cydsynio cyfartal (16)[7]
Partneriaethau sifil (ers 2005)[8] Deddfwriaeth trosedd casineb arfaethedig[9] Oes (ers 2002)[10] Y trobwynt mewn newid agweddau llywodraethol a chyhoeddus tuag at ddeddfwriaeth ar gyfunrywioldeb oedd cyhoeddiad Adroddiad Wolfenden yn 1957.[7]

Roedd cyfunrywioldeb rhwng menywod byth yn anghyfreithlon.

Sbaen Dim (diddymwyd ym 1979)[11] Priodas gyfunryw (ers 2005)[12][13] Oes (ers 2005)[14] Oes[12] Mae uniadau sifil yn bodoli yn 12 o 17 cymuned ymreolaethol y wlad.

Gogledd America[golygu | golygu cod]

Gwlad Deddfau yn erbyn cyfunrywioldeb Cosb Uniadau cyfunryw Deddfau yn erbyn gwahaniaethu Mabwysiad Sylwadau
Canada Dim (diddymwyd ym 1969)[15] Priodas gyfunryw (ers 2005)[15] Oes[15] Oes yn:[16]

Nac oes yn:[17]

Cyfraith yn ansicr yn:[17]

Yr Unol Daleithiau Dim

Yr achos diweddaraf ynglŷn â'r mater oedd Lawrence v. Texas, 2003: dyfarnodd y Llys Goruchaf bod deddfau sodomiaeth yn anghyfansoddiadol.[18]

Priodas gyfunryw wedi'i gwahardd yn:[19]

Uniadau sifil yn:

Partneriaethau domestig yn:

Priodas gyfunryw yn:

Oes Oes; mabwysiadu gan gyplau cyfunryw yn gyfreithlon yn:[25][26]

Fflorida yw'r unig dalaith sy'n gwahardd mabwysiad gan unigolion LHDT.[25]

Mae cyfraith y mwyafrif o daleithiau eraill yn amwys ar y mater.

Pwnc llosg dadleuol iawn yn yr UD yw cyfunrywioldeb a hawliau LHDT, gyda safbwyntiau polareiddiedig sy'n ymglymu agweddau crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol.

Darganfuodd Arolwg Agweddau Byd-eang 2003 Canolfan Ymchwil Pew bod mwyafrif cul (51 %) o Americanwyr yn credu dylai cyfunrywioldeb gael ei dderbyn gan gymdeithas, tra bo 42% yn anghytuno.[27]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) The Amsterdam Treaty: freedom, security and justice. europa.eu. Adalwyd ar 18 Ionawr, 2008. "more effective action is to be taken to combat not only discrimination based on nationality but also discrimination based on sex, racial or ethnic origin, religion or belief, disability, age or sexual orientation"
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Belgium. glbtq.com. Adalwyd ar 30 Ionawr, 2008.
  3. (Ffrangeg) Testun y ddeddf Felgaidd ar briodas gyfunryw. Moniteur belge/Belgisch Staatsblad. Adalwyd ar 30 Ionawr, 2008.
  4. (Saesneg) Belgian parliament approves gay marriage. advocate.com (12 Chwefror, 2003). Adalwyd ar 30 Ionawr, 2008.
  5. (Saesneg) Belgium passes gay adoption law. BBC (21 Ebrill, 2006). Adalwyd ar 30 Ionawr, 2008.
  6. (Saesneg) The Criminal Law Amendment Act of 1885 and Sexual Assault on Minors. Adalwyd ar 22 Ionawr, 2008.
  7. 7.0 7.1 7.2 (Saesneg) 1957: Homosexuality 'should not be a crime'. BBC. Adalwyd ar 22 Ionawr, 2008.
  8. (Saesneg) Q&A: Civil partnership. BBC (5 Rhagfyr, 2005). Adalwyd ar 22 Ionawr, 2008.
  9. (Saesneg) Straw moves to ban incitement against gays. The Guardian (9 Hydref, 2007). Adalwyd ar 22 Ionawr, 2008.
  10. (Saesneg) Adoption. Stonewall Cymru. Adalwyd ar 22 Ionawr, 2008.
  11. (Saesneg) Gay victims of Franco era to win compensation. The Independent (28 Rhagfyr, 2006). Adalwyd ar 18 Ionawr, 2008.
  12. 12.0 12.1 (Saesneg) Spain Approves Gay Marriage, Adoption. Deutsche Welle (22 Ebrill, 2005). Adalwyd ar 18 Ionawr, 2008.
  13. (Saesneg) First gay couple marries in Spain. CNN (11 Gorffennaf, 2005). Adalwyd ar 18 Ionawr, 2008.
  14. (Saesneg) Fact Sheet: Worldwide Antidiscrimination Laws and Policies Based on Sexual Orientation. thebody.com (Ionawr 1999). Adalwyd ar 18 Ionawr, 2008.
  15. 15.0 15.1 15.2 (Saesneg) Same-sex marriage law passes 158-133. CBC (29 Mehefin, 2005). Adalwyd ar 19 Ionawr, 2008.
  16. (Saesneg) Hurley, Mary C. (31 Mai, 2007). Sexual Orientation and Legal Rights. Senedd Canada. Adalwyd ar 19 Ionawr, 2008.
  17. 17.0 17.1 (Saesneg) Gay Adoption. orphansadoption.com. Adalwyd ar 19 Ionawr, 2008.
  18. 18.0 18.1 18.2 (Saesneg) The American Gay Rights Movement: A Timeline. infoplease.com. Adalwyd ar 5 Chwefror, 2008.
  19. 19.0 19.1 19.2 19.3 19.4 19.5 19.6 (Saesneg) Where gay or same sex marriage and adoption is legal in the United States of America. gaylife.about.com. Adalwyd ar 4 Chwefror, 2008.
  20. 20.0 20.1 20.2 20.3 20.4 20.5 20.6 20.7 (Saesneg) A Primer on Same-Sex Marriage, Civil Unions, Domestic Partnerships, and Defense of Marriage Acts. infoplease.com. Adalwyd ar 5 Chwefror, 2008.
  21. (Saesneg) Civil unions for gays now available in N.J.. msnbc (19 Chwefror, 2007). Adalwyd ar 5 Chwefror, 2008.
  22. (Saesneg) Liptak, Adam (16 Mai, 2008). California Court Affirms Right to Gay Marriage. The New York Times. Adalwyd ar 27 Mai, 2008.
  23. (Saesneg) Massachusetts Law About Same-Sex Marriage. Massachusetts Trial Court Law Libraries. Adalwyd ar 4 Chwefror, 2008.
  24. (Saesneg) Arce, Rose (6 Chwefror, 2004). Massachusetts court upholds same-sex marriage. CNN. Adalwyd ar 4 Chwefror, 2008.
  25. 25.0 25.1 (Saesneg) Where is Gay Adoption Legal? (tudalen 1). gaylife.about.com. Adalwyd ar 5 Chwefror, 2008.
  26. (Saesneg) Where is Gay Adoption Legal? (tudalen 2). gaylife.about.com. Adalwyd ar 5 Chwefror, 2008.
  27. (Saesneg) Pew Global Attitudes Project (Mehefin 2003). Views of a Changing World (PDF). The Pew Research Center For The People & The Press. Adalwyd ar 24 Medi, 2007.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod]