Newfoundland a Labrador
| Delwedd:NLW Table2 tango7174.jpg, Newfoundland in winter as seen by Envisat ESA229908.jpg | |
| Arwyddair | Quaerite Primum Regnum Dei |
|---|---|
| Math | Talaith Canada |
| Enwyd ar ôl | João Fernandes Lavrador |
| Prifddinas | St John's |
| Poblogaeth | 510,550 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Tony Wakeham |
| Cylchfa amser | Newfoundland Standard Time, Cylchfa Amser yr Iwerydd |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 405,212 km² |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Labrador Sea, Gwlff St Lawrence |
| Yn ffinio gyda | Québec, Nunavut |
| Cyfesurynnau | 53°N 60°W |
| Cod post | A |
| CA-NL | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | government of Newfoundland and Labrador |
| Corff deddfwriaethol | General Assembly of Newfoundland and Labrador |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Canada |
| Pennaeth y wladwriaeth | Charles III |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Premier of Newfoundland and Labrador |
| Pennaeth y Llywodraeth | Tony Wakeham |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | 0 biliwn C$ |
| Arian | doler |
| Cyfartaledd plant | 1.3007 |
Un o daleithiau Canada yw Newfoundland a Labrador (Saesneg Newfoundland and Labrador, Ffrangeg Terre-Neuve-et-Labrador) neu yn Gymraeg y Tir Newydd[1] a Labrador[2] neu y Tir Newydd a Labradôr.[2]
Yn ddaearyddol, mae'r dalaith yn cynnwys ynys Newfoundland, ynghyd ag ardal sy'n ffurfio rhan o'r tir mawr, Labrador. Pan ymunodd â Chanada yn 1949, Newfoundland oedd enw'r dalaith gyfan. Ond ers 1964 cyfeirir at lywodraeth y dalaith fel Llywodraeth Newfoundland a Labrador, ac ar 6 Rhagfyr 2001 diwygiwyd Cyfansoddiad Canada er mwyn newid enw swyddogol y dalaith i Newfoundland a Labrador. Serch hynny, mae pobl yn parhau i gyfeirio'n answyddogol at y dalaith fel Newfoundland yn unig.
St John's yw prifddinas a dinas fwya'r dalaith.
Yn 1617 sefydlwyd gwladfa Gymreig Cambriol yn Newfoundland gan Syr William Vaughan, ond methiant fu yn y pen draw.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [Newfoundland].
- 1 2 Geiriadur yr Academi, [Labrador].
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Llywodraeth Newfoundland a Labrador
| Taleithiau a thiriogaethau Canada | |
| Taleithiau: Alberta | British Columbia | Manitoba | New Brunswick | Nova Scotia | Ontario | Québec | |
| Saskatchewan | Prince Edward Island | Newfoundland a Labrador | |
| Tiriogaethau: Nunavut | Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin | Yukon | |
