Trosedd casineb

Oddi ar Wicipedia

Troseddau casineb yw pan fo troseddwr yn targedu person am ei fod e neu hi'n perthyn i grŵp gymdeithasol benodol, grŵpiau a ddiffinir fel arfer gan hîl, crefydd, rhywioldeb, anabledd, ethnigrwydd, cenedl, oed, rhyw, hunaniaeth rywiol neu eu hymrwymiad i blaid wleidyddol benodol.

Gall droseddau casineb gynnwys ymosodiadau corfforol, dinistrio eiddo, bwlio, aflonyddu, erledigaeth, ymosodiad geiriol neu sarhaus neu graffiti neu lythyrau annymunol.

Eginyn erthygl sydd uchod am drosedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.