Kilimanjaro

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Kilimanjaro
Mt. Kilimanjaro 12.2006.JPG
Mathmasiff, mynydd, atyniad twristaidd, dormant volcano Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolKilimanjaro National Park Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynolY Dyffryn Hollt Mawr, Y Saith Pegwn, Volcanic Seven Summits, Highest mountain peaks of Africa, Ultra-prominent peak, Seven Third Summits, Seven Third Summits Edit this on Wikidata
SirKilimanjaro Region Edit this on Wikidata
GwladBaner Tansanïa Tansanïa
Uwch y môr5,895 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau3.0667°S 37.3592°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd5,885 metr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolPlïosen Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEast African mountains Edit this on Wikidata
Deunyddrhyolite Edit this on Wikidata

Kilimanjaro yng ngogledd-ddwyrain Tansanïa yw mynydd uchaf Affrica. Ffurfir Kilimanjaro gan dri copa: Kibo yr uchaf sy'n 5,895 metr (19,341 tr), Mawensi, a Shira. Y copa uchaf yw Copa Uhuru ar y llosgfynydd Kibo. Y cyntaf i gyrraedd y copa yma oedd Yohanas Kinyala Lauwo, Hans Meyer a Ludwig Purtscheller, ar 6 Hydref, 1889. Mae Mawenzi yn 5,149 m (16,890 troedfedd) o uchder, a Shira yn 3,962 m (13,000 troedfedd).

Gellir dringo Uhuru heb brofiad blaenorol o ddringo ar eira a rhew, ac mae tripiau masnachol yn mynd a thwristiaid i'r copa. Fodd bynnag, mae cryn nifer yn gorfod troi'n ôl oherwydd effaith yr uchder.

Dynodwyd Parc Cenedlaethol Kilimanjaro yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

O ran topograffeg, Kilimanjaro yw'r pedwerydd copa mwyaf amlwg ar y Ddaear. Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Kilimanjaro ac mae'n gyrchfan ddringo o bwys. Credir bod ei rewlifoedd a'i haenau o iâ yn crebachu, a rhagwelir y byddant wedi diflannu rhwng 2030 a 2050; oherwydd hyn maent cant eu hastudio gan ddaearegwyr, hinsoddwyr a gwyddonwyr eraill.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid yw tarddiad yr enw Kilimanjaro yn hysbys, ond mae nifer o ddamcaniaethau'n bodoli. Roedd fforwyr Ewropeaidd wedi mabwysiadu'r enw erbyn 1860 ac wedi adrodd mai "Kilima-Ndscharo" oedd yr enw Kiswahili.[1] Cofnodwyd yn rhifyn 1907 o The Nuttall Encyclopædia enw'r mynydd fel Kilima-Njaro.

Ysgrifennodd Johann Ludwig Krapf ym 1860 fod y brodorion lleol, ar hyd yr arfordir, yn galw'r mynydd yn "Kilimanjaro" a bod y gai yn golygu naill ai mynydd mawr neu fynydd o garafanau. O dan yr ystyr olaf, roedd cilima yn golygu mynydd a jaro yn golygu carafanau.[1] Honnodd Jim Thompson ym 1885 y deellir yn gyffredinol bod y term Kilima-Njaro "yn golygu" mynydd (cilima) a mawredd (njaro). Awgrymodd hefyd "er nad yn annhebygol y gallai olygu" y mynydd gwyn.[2][3]

Daeareg a daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Stratovolcano segur, mawr yw Kilimanjaro sy'n cynnwys tri chôn folcanig amlwg: Kibo, yr uchaf; Mawenzi ar 5149 metr;[4] a Shira, yr isaf ar 4,005 m.[5] Mae Mawenzi a Shira wedi diffodd, tra bod Kibo yn segur ar hyn o bryd, ond yn ddigon tebygol y gall ffrwydro eto.[3]

Copa Uhuru yw'r copa uchaf ar ymyl crater Kibo. Mae Awdurdod Parciau Cenedlaethol Tanzania, asiantaeth lywodraeth Tanzania,[6] a Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig yn rhestru uchder Copa Uhuru yn 5,895 metr, yn seiliedig ar arolwg Prydeinig ym 1952.[7] Ers hynny mae'r uchder wedi'i fesur yn 5,892 metr ym 1999 ac yn 5,899 yn 2014.[7]

Fylcanoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ychydig a ŵyr y gwyddonwyr am y tu mewn i Kilimanjaro, oherwydd na fu unrhyw erydiad sylweddol i ddatgelu'r strata igneaidd sy'n cynnwys strwythur y llosgfynydd.[8]

Yr awyrlun cyntaf o Kibo a dynnwyd gan Walter Mittelholzer ym 1929

Dechreuodd gweithgaredd ffrwydrol yn y Shira tua 2.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl, gyda'r cam pwysig olaf yn digwydd tua 1.9 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ychydig cyn i'r rhan ogleddol gwympo.[3] Mae llwyfandir eang ar ben Shira ar 3,800 metr a all fod yn caldera wedi'i lenwi. Mae'r ymyl y caldera sy'n weddill wedi'i ddiraddio'n ddwfn gan erydiad. Cyn i'r caldera ffurfio a chyn i'r erydiad ddechrau, gallai'r Shira fod rhwng 4,900 and 5,200 m (16,100 a 17,100 tr) o uchder. Fe'i gwnaed o cynnwys lafau sylfaenol yn bennaf, gyda rhai pyroclastigs. Ffurfiwyd dau gôn y naill yn ffonolitig ym mhen gogledd-orllewinol y grib a'r Platzkegel yng nghanol y caldera.[3][8][9]

Dechreuodd Mawenzi a Kibo ffrwydro tua 1 filiwn o flynyddoedd yn ôl.[3]

Mae'r creigiau ieuengaf ym Mawenzi tua 448,000 o flynyddoedd oed.[3] Ffurfia'r Mawenzi grib siâp pedol gyda chpaon a chribau yn agor i'r gogledd-ddwyrain, gyda siâp tebyg i dŵr yn deillio o erydiad dwfn. Torra sawl cylched fawr i fewn i'r cylch. Ar ben ceunant Great Barranco saif y mwyaf o'r rhain. Hefyd yn nodedig mae Barrancos y Dwyrain a Gorllewin ar ochr ogledd-ddwyreiniol y mynydd. Mae'r rhan fwyaf o ochr ddwyreiniol y mynydd wedi diflannu drwy erydiad. Mae gan Mawenzi gopa atodol, Tŵr Neumann sy'n 4,425 metr.[3][8][9]

Kibo yw'r côn mwyaf ar y mynydd ac mae'n fwy na 24 km (15 mi) o led ar yr un uchder â Llwyfandir y Cyfrwy. Y ffrwydriad olaf yma, rhwng 150,000 a 200,000 o flynyddoedd yn ôl, greodd y crater a welir heddiw ar grib Kibo. Heddiw, mae nwyon yn dal i allyrru allan drwy ffwmarolau yn y crater.[3][8][9]

Mae haen o lafa yn claddu'r mwyafrif o nodweddion daearegol hŷn, ac eithrio'r strata agored yn y Great West Notch a'r Kibo Barranco. Gwelir ymyriadau o syenite yn y cyntaf.[8]

Rhewlifoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Model 3D o Kibo.

Mae tystiolaeth ddaearegol yn dangos pum pennod rewlifol, a ddigwyddodd yn olynol yn ystod y cyfnod Cwaternaidd, sef:

  • Cyntaf (500,000 CP)
  • Ail (mwy na 360,000 o flynyddoedd yn ôl i 240,000 CP)
  • Trydydd (150,000 i 120,000 CP),
  • Pedwerydd (a elwir hefyd yn "Y Prif") (20,000 i 17,000 CP),
  • Bychan (16,000 i 14,000 CP).

Efallai mai'r Trydydd oedd y mwyaf helaeth, ac ymddengys bod y Bychan yn ystadegol yn rhan o'r Pedwerydd.[10]

Arferai cap iâ parhaus oddeutu 400 cilometr sgâr (km sg) i lawr i ddrychiad o 3,200 metr orchuddio Kilimanjaro yn ystod yr Uchafbwynt Rhewlifiant Diwethaf yn yr epoc Pleistosen (y Brif bennod rewlifol), gan ymestyn ar draws copaon Kibo a Mawenzi.[5] Oherwydd yr amodau sych hir eithriadol a'i dilynnodd, efallai i'r meysydd iâ ar Kilimanjaro ddiflannu tua 11,500 o flynyddoedd CP.[11] Mae creiddiau iâ a gymerwyd o Gae Iâ Gogleddol Kilimanjaro (Northern Ice Field neu NIF) yn dangos bod gan y rhewlifoedd yno oedran gwaelodol o tua 11,700 o flynyddoedd,[12] er bod dadansoddiad o rew a gymerwyd yn 2011 o glogwyni fertigol agored yn yr NIF yn cefnogi oedran sy'n ymestyn i 800 blwyddyn CP yn unig.[13] Caniataodd cyfraddau dyodiad uwch ar ddechrau'r cyfnod Holosen (11,500 mlynedd CP) i'r cap iâ ailffurfio.[11] Goroesodd y rhewlifoedd sychder eang yn ystod cyfnod o dair canrif gan ddechrau tua 4,000 o flynyddoedd CP.[11][14]

Wal ymyl fertigol Rhewlif Rebmann yn 2005 gyda Mynydd Meru yn y cefndir.

Ar ddiwedd y 1880au, gorchuddiwyd copa Kibo yn llwyr gan gap iâ tua 20 km sg, rhewlifoedd llai'n rhaeadru ohono ac i lawr y llethrau gorllewinol a deheuol. Heblaw am y côn fewnol, claddwyd y caldera cyfan.[5][15] Ciliodd rhewlifoedd y llethr yn gyflym rhwng 1912 a 1953, mewn ymateb i newid hinsawdd ar ddiwedd y 19g a'r anghydbwysedd hinsoddol. Mae eu tranc parhaus yn dangos eu bod yn dal allan o gydbwysedd mewn ymateb i newid cyson yn yr hinsawdd dros y ganrif ddiwethaf.[5]

Mewn cyferbyniad â'r rhewlifoedd parhaus y llethrau, mae'r rhewlifoedd ar lwyfandir crater Kilimanjaro wedi ymddangos a diflannu bob yn ail yn ystod y cyfnod Holocene, gyda phob cylch yn para ychydig gannoedd o flynyddoedd.[16] Mae'n ymddangos bod lleihau lleithder penodol yn hytrach na newidiadau tymheredd wedi achosi i'r rhewlifoedd grebachu ar y llethr ers diwedd y 19g. Ni chafwyd cyfnod o gynhesu clir yma rhwng 1948 a 2005. Er bod tymereddau aer ar yr edrychiad hwnnw bob amser yn is na'r rhewbwynt, mae ymbelydredd solar wedi achosi toddi ar wynebau fertigol. Mae waliau fertigol yr ymylon iâ yn nodwedd unigryw o rewlifoedd y copa ac yn un o'r prif lefydd le gwelir crebachu'r rhewlifoedd.[5][17] Defnyddiwyd rhewlifoedd Kilimanjaro i dynnu creiddiau iâ, gan gynnwys dau o'r maes iâ deheuol, a thrwy hyn, credir y ffurfiwyd y maes iâ hwn rhwng 1,250 a 1,450 mlynedd CP.[18]

Wal fertigol ymyl y rhewlif fel y'i gwelwyd o Bwynt Gilman ar ymyl y crater ar dorriad y wawr ym 1998

Diflannodd bron i 85% o'r gorchudd iâ ar Kilimanjaro rhwng Hydref 1912 a Mehefin 2011, gyda'r gostyngiad o 11.4 km sg i lawr i 1.76 km sg.[19]  Rhwng 1912 a 1953, bu 1.1% lai o iâ ar gyfartaledd bob blwyddyn.[14] Roedd y golled flynyddol ar gyfartaledd rhwng 1953 a 1989 yn 1.4%, tra bod y gyfradd golled ar gyfer 1989 i 2007 yn 2.5%.[14] O'r gorchudd iâ sy'n dal i fodoli yn 2000, roedd bron i 40% wedi diflannu erbyn 2011.[19]  Sylwodd y dringwr iâ Will Gadd ar y gwahaniaethau rhwng ei ddringfeydd yn 2014 a 2020.[11][20] Yn 2013 amcangyfrifwyd, ar y gyfradd gyfredol o gynhesu byd-eang, y bydd y rhan fwyaf o'r rhew ar Kilimanjaro wedi diflannu erbyn y flwyddyn 2040 ac "mae'n annhebygol iawn y bydd unrhyw iâ yno ar ôl 2060".[19]

Draenio[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Kilimanjaro wedi'i ddraenio gan rwydwaith o afonydd a nentydd, yn enwedig ar yr ochr ddeheuol wlypach ac wedi'i erydu'n drymach - yn enwedig uwchlaw 1,200 m. O dan yr uchder hwn, mae anweddiad cynyddol a defnydd dŵr gan bobl yn lleihau'r llif dŵr. Draenia afonydd Lumi a Pangani Kilimanjaro ar yr ochrau dwyreiniol a deheuol, yn y drefn honno.[21]

Dau o gonau folcanig Kilimanjaro: Kibo (chwith) a Mawenzi (dde).

Hanes dynol[golygu | golygu cod y dudalen]

Disgrifiwyd Kilimanjaro mewn nifer o straeon gan frodorion Dwyrain Affrica. Mae'r Chaggaiaid, a oedd yn draddodiadol yn byw ar lethrau deheuol a dwyreiniol y mynydd, yn adrodd sut y gwnaeth dyn o'r enw Tone bryfocio'r duw, Ruwa, i ddod â newyn i'r tir. Ffyrnigiwyd y bobl gan orfodi Tone i ffoi am ei fywyd. Nid oedd neb eisiau ei amddiffyn ond preswylydd unig a oedd â cherrig a oedd yn troi'n wartheg. Gofynnodd y bobl i Tone i beidio ac agor drws beudy'r gwartheg. Diystyrodd Tone eu cyngor a dihangodd y gwartheg! Dilynodd Tone nhw i fyny'r bryniauond a throdd pob un yn graigm gan gynnwys Mawenzi a Kibo. Cwympodd Tone o'r diwedd ar Kibo, gan ddod â'r ymlid i ben.[22]

Mae chwedl Chaggaidd arall yn sôn am feddau eliffantod llawn ifori ar y mynydd, ac am fuwch o'r enw Rayli sy'n cynhyrchu braster gwyrthiol o chwarennau ei chynffon. Os bydd dyn yn ceisio dwyn chwarren o'r fath yna bydd Rayli yn chwythu stwff-trwyn pwerus o'i ffroenau ac yn chwythu'r lleidr i lawr i'r gwastadedd.[23]

Dringwyr Ewropeaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Y cenhadon Almaenig Johannes Rebmann o Mombasa a Krapf oedd yr Ewropeaid cyntaf y gwyddys eu bod wedi ceisio dringo i gopa'r mynydd. Yn ôl y daearyddwr Halford Mackinder a’r fforiwr Harry Johnston, Rebmann ym 1848 oedd yr Ewropeaidd gyntaf i roi gwybod am fodolaeth Kilimanjaro.[24][25]

Yn Awst 1861, gwnaeth y swyddog Prwsiaidd, y Barwn Karl Klaus von der Decken, ynghyd â'r daearegwr o Richard Thornton, ymdrech i ddringo Kibo ond "ni chafodd ddim pellach na 2,500 metr (8,200 tr) oherwydd inclemency y tywydd".[26][27]:9[28] Yn Rhagfyr 1862, ceisiodd von der Decken yr eildro ynghyd ag Otto Kersten, gan gyrraedd uchder o 4,300 metr (14,000 tr) y tro yma.[29] Gwnaed esgyniad cyntaf copa uchaf Mawenzi ar 29 Gorffennaf 1912, gan y dringwyr Almaenig Eduard Hans Oehler a Fritz Klute, a'i enwodd yn Hans Meyer Peak. Aeth Oehler a Klute ymlaen i esgyn Kibo y drydydd tro erioed, trwy Rewlif Drygalski, a disgyn trwy'r Bwlch Gorllewinol.[30]:85

Ffawna a fflora[golygu | golygu cod y dudalen]

Anifeiliaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Eliffantod ym Mharc Cenedlaethol Amboseli gyda Mynydd Kilimanjaro yn y cefndir

Mae anifeiliaid mawr yn brin ar Kilimanjaro ac yn amlach yn y coedwigoedd a rhannau isaf y mynydd. Ceir eliffantod a byfflo Cape ymhlith yr anifeiliaid a all fod yn beryglus i heicwyr. Ceir hefyd: Bushbucks, chameleons, dik-diks, duikers, mongooses, sunbirds, a warthogs. Gwelwyd sebras, llewpardiaid ac udfilod yn achlysurol ar lwyfandir Shira.[31] Ymhlith y rhywogaethau penodol sy'n gysylltiedig â'r mynydd ei hun mae shrew Kilimanjaro [32] a'r madfall symudliw (Kinyongia tavetana).[33]

Llystyfiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Y goedwig gymylau ar lwybr Marangu ar lethr y de-ddwyrain.

Mae coedwigoedd naturiol yn gorchuddio tua 1,000 km sg (250,000 acr) o Kilimanjaro.[34] Wrth droed y mynydd tyfir indrawn, ffa, blodau haul ac, ar yr ochr orllewinol tyfir gwenith. Mae olion y llystyfiant safanaidd i'w gweld: yr Acesia, Combretum, Terminalia a Grewia. Rhwng 1,000 metr a 1,800 metr tyfir coffi fel rhan o "erddi cartref y Chagga". Gwelir llystyfiant brodorol yn tyfu ar yr uchder hon (Strombosia, Newtonia, ac Entandrophragma) ond sydd wedi'u cyfyngu i ddyffrynnoedd a cheunentydd anhygyrch[35] ac mae'n wahanol i lystyfiant uwch. Ar y llethrau gogleddol sychach ceir olewydd, Croton - Calodendrum, Cassipourea, a Juniperus yn ffurfio coedwigoedd. Rhwng 3,100 a 4,500 metr gorwedd llwyn a rhostiroedd o Erica a Helichrysum.[36][37]

Mae Glaswelltir Tussock yn ardal ar lethrau Kilimanjaro ac sy'n cynnwys llawer o rywogaethau unigryw o lystyfiant, fel y Dendrosenecio.

Hinsawdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae hinsawdd Kilimanjaro yn cael ei ddylanwadu gan uchder y mynydd a chan safle ynysig y mynydd. Mae gan Kilimanjaro wyntoedd sy'n chwythu i fyny'r llethrau yn ystod y dydd ac i lawr y llethrau yn ystod y nos, ac mae'r drefn hon yn fwy amlwg yn y de nag ar ochr ogleddol y mynydd.[38]:3

Mae gan Kilimanjaro ddau dymor glawog penodol, un o fis Mawrth i fis Mai a'r llall o tua mis Tachwedd. Mae'r llethrau gogleddol yn derbyn llawer llai o law na'r rhai deheuol,[34] gyda'r llethrau deheuol isaf yn derbyn rhwng 800 a 900 mm o law yn flynyddol. Mae hyn yn codi i rhwng 1,500 a 2,000 mm ar uchder o 1,500 m a thros 3,000 mm ar uchder o 2,300 metr. Yn y parth alpaidd, mae'r dyodiad blynyddol yn gostwng i 200 mm o law.[36] Gellir cymharu hyn gyda dyodiad ar y Grib Goch, ym Mharc Cenedlaethol Eryri, lle ceir cyfartaledd o 4,473 milimetr o law y flwyddyn dros y 30 mlynedd diwethaf.[39]

Mae'r tymheredd ar gyfartaledd yn ardal y copa oddeutu −7 °C (19 °F) a'r tymeredd yn ystod y nos ar Haenau Iâ'r Gogledd (NIF) yn gostwng ar gyfartaledd i −9 °C (16 °F), gydag uchafswm yn ystod y dydd o −4 °C (25 °F).

Gall eira ddisgyn ar unrhyw adeg o'r flwyddyn ond mae'n gysylltiedig yn bennaf â dau dymor glawog gogledd Tanzania.[11]

Twristiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhyrchodd Parc Cenedlaethol Kilimanjaro refeniw o US $51 miliwn yn 2013,[40] yr ail-fwyaf o unrhyw barc cenedlaethol yn Tansanïa.[41]  Adroddodd Awdurdod Parciau Cenedlaethol Tanzania fod y parc wedi cofnodi 57,456 o dwristiaid yn ystod blwyddyn gyllideb 2011–12, gyda 16,425 ohonynt wedi cerdded y mynydd; mae Cynllun Rheoli Cyffredinol y parc yn nodi uchafswm blynyddol o 28,470 o gerddwyr.[42] Cyflogir tua 11,000 o dywyswyr, porthorion a chogyddion yn 2007.[43] Oherwydd poblogrwydd Parc Cenedlaethol Kilimanjaro fel cyrchfan, mae llywodraeth Tanzania wedi buddsoddi mewn seilwaith ffyrdd i wella'r hygyrchedd. Yn Tanzania, mae Maes Awyr Rhyngwladol Kilimanjaro hefyd yn gweithredu fel canolbwynt cludo teithwyr.[44]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Johann Ludwig Krapf; Ernest George Ravenstein (1860). Travels, Researches, and Missionary Labours, During an Eighteen Years' Residence in Eastern Africa: Together with Journeys to Jagga, Usambara, Ukambani, Shoa, Abessinia and Khartum, and a Coasting Voyage from Nombaz to Cape Delgado. Trübner and Company, Paternoster Row. t. 255. Cyrchwyd 2016-10-04.
  2. Thomson, Joseph (1887). "Through Masai land: a journey of exploration among the snowclad volcanic mountains and strange tribes of eastern equatorial Africa, authored by Johann Ludwig Krapf and Ernest George Ravenstein, Low, Marston, Searle, & Rivington, London, 1887". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-23. Cyrchwyd 2016-10-04.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 3.7 Nonnotte, Philippe; Guillou, Hervé; Le Gall, Bernard; Benoit, Mathieu; Cotten, Joseph; Scaillet, Stéphane (2008). "New K Ar age determinations of Kilimanjaro volcano in the North Tanzanian diverging rift, East Africa". Journal of Volcanology and Geothermal Research 173 (1): 99. Bibcode 2008JVGR..173...99N. doi:10.1016/j.jvolgeores.2007.12.042. https://hal-insu.archives-ouvertes.fr/insu-00304458/file/Nonnotte_et_al.J.Volc.Geoth.Res-08.pdf. Adalwyd 2019-01-08.
  4. Sharaf, Yasir (24 Mawrth 2016). "Mount Kilimanjaro Volcanic Cones: Shira, Kibo And Mawenzi Peaks". XPATS International (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Medi 2021.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 Cullen, Nicolas J.; Mölg, Thomas; Kaser, Georg; Hussein, Khalid; Steffen, Konrad; Hardy, Douglas R. (2006). "Kilimanjaro Glaciers: Recent areal extent from satellite data and new interpretation of observed 20th century retreat rates". Geophysical Research Letters 33 (16): L16502. Bibcode 2006GeoRL..3316502C. doi:10.1029/2006GL027084.
  6. "Kilimanjaro National Park". Tanzania National Parks. Tanzania National Parks. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Medi 2012. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2015.
  7. 7.0 7.1 Pascal Sirguey, Nicolas J. Cullen and Jorge Filipe Dos Santos. "The New Digital Orthometric Elevation Model of Kilimanjaro" (PDF). CEUR Workshop Proceedings. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2015.
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 8.4 Wilcockson, W. H. (1956). "Preliminary Notes on the Geology of Kilimanjaro". Geological Magazine 93 (3): 218–228. Bibcode 1956GeoM...93..218W. doi:10.1017/S0016756800066590.
  9. 9.0 9.1 9.2 John Barry Dawson (2008). The Gregory Rift Valley and Neogene-recent Volcanoes of Northern Tanzania. Geological Society of London. t. 56. ISBN 978-1-86239-267-0. Cyrchwyd 2016-10-04.John Barry Dawson (2008). The Gregory Rift Valley and Neogene-recent Volcanoes of Northern Tanzania. Geological Society of London. p. 56. ISBN 978-1-86239-267-0. Archived from the original on 23 Chwefror 2017. Retrieved 4 October 2016.
  10. Mark, Bryan G.; Osmaston, Henry A. (2008). "Quaternary glaciation in Africa: Key chronologies and climatic implications". Journal of Quaternary Science 23 (6–7): 589–608. Bibcode 2008JQS....23..589M. doi:10.1002/jqs.1222.
  11. 11.0 11.1 11.2 11.3 11.4 Gabrielli, P.; Hardy, D. R.; Kehrwald, N.; Davis, M.; Cozzi, G.; Turetta, C.; Barbante, C.; Thompson, L. G. (2014). "Deglaciated areas of Kilimanjaro as a source of volcanic trace elements deposited on the ice cap during the late Holocene". Quaternary Science Reviews 93: 1–10. Bibcode 2014QSRv...93....1G. doi:10.1016/j.quascirev.2014.03.007.
  12. Thompson, Lonnie G (2002). "Kilimanjaro Ice Core Records: Evidence of Holocene Climate Change in Tropical Africa". Science 298 (5593): 589–593. Bibcode 2002Sci...298..589T. doi:10.1126/science.1073198. PMID 12386332. http://www.geo.umass.edu/climate/doug/pubs/thompson_etal_sci02.pdf. Adalwyd 16 Awst 2012.
  13. Uglietti, Chiara; Zapf, Alexander; Szidat, Sönke; Salazar, Gary; Hardy, Doug; Schwikowski, Margit (2015). "The controversial age of Kilimanjaro's plateau glaciers". Egu General Assembly Conference Abstracts 17: 5091. Bibcode 2015EGUGA..17.5091U.
  14. 14.0 14.1 14.2 Thompson, L. G.; Brecher, H. H.; Mosley-Thompson, E.; Hardy, D. R.; Mark, B. G. (2009). "Glacier loss on Kilimanjaro continues unabated". Proceedings of the National Academy of Sciences 106 (47): 19770–5. Bibcode 2009PNAS..10619770T. doi:10.1073/pnas.0906029106. PMC 2771743. PMID 19884500. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2771743.
  15. Young, James A. T. "Glaciers of the Middle East and Africa" (PDF). U.S. Geological Professional Survey. U.S. Department of the Interior. tt. G61, G58, G59 G62. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 28 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 16 Awst 2012.Young, James A. T. "Glaciers of the Middle East and Africa" (PDF). U.S. Geological Professional Survey. U.S. Department of the Interior. pp. G61, G58, G59 G62. Archived (PDF) from the original on 28 Gorffennaf 2012. Retrieved 16 August 2012.
  16. Kaser, Georg; Mölg, Thomas; Cullen, Nicolas J.; Hardy, Douglas R.; Winkler, Michael (2010). "Is the decline of ice on Kilimanjaro unprecedented in the Holocene?". The Holocene 20 (7): 1079–1091. Bibcode 2010Holoc..20.1079K. doi:10.1177/0959683610369498. ISSN 0959-6836.
  17. Vijay P. Singh; Pratap Singh; Umesh K. Haritashya (1 Gorffennaf 2011). Encyclopedia of Snow, Ice and Glaciers. Springer Science & Business Media. ISBN 978-90-481-2641-5. Cyrchwyd 4 Hydref 2016.
  18. Thompson, L.G.; Davis, M.E. (2007). "ICE CORE RECORDS | Africa". Encyclopedia of Quaternary Science. tt. 1220–1225. doi:10.1016/B0-44-452747-8/00351-3. ISBN 9780444527479.
  19. 19.0 19.1 19.2 Cullen, N. J.; Sirguey, P.; Mölg, T.; Kaser, G.; Winkler, M.; Fitzsimons, S. J. (2013). "A century of ice retreat on Kilimanjaro: the mapping reloaded". The Cryosphere 7 (2): 419–431. Bibcode 2013TCry....7..419C. doi:10.5194/tc-7-419-2013. ISSN 1994-0424.
  20. Zeinab, Noura Abou (15 Hydref 2020). "'Big pieces' of Kilimanjaro 'missing' due to climate crisis, says ice climber Will Gadd". CNN. Cyrchwyd 15 Hydref 2020.
  21. William Dubois Newmark (1991). The Conservation of Mount Kilimanjaro. IUCN. tt. 105–106. ISBN 978-2-8317-0070-0. Cyrchwyd 2016-10-04.
  22. "THE GEOGRAPHY PEOPLE AND MYTHOLOGY OF AFRICA'S HIGHEST PEAK". www.secretcompass.com. 2 Ionawr 2018. Cyrchwyd 6 Chwefror 2021.
  23. Charles Dundas (12 Tachwedd 2012). Kilimanjaro and Its People: A History of Wachagga, their Laws, Customs and Legends, Together with Some. Routledge. tt. 84–88. ISBN 978-1-136-24940-2. Cyrchwyd 4 Hydref 2016.
  24. Mackinder, Halford (1900). "A Journey to the Summit of Mount Kenya, British East Africa". The Geographical Journal 15 (5): 453–476. doi:10.2307/1774261. JSTOR 1774261. https://zenodo.org/record/1449198.
  25. ""Kilimanjaro", authored by Sir. H. H. Johnston, in The Twentieth Century, published by Nineteenth Century and After, printed by Spottswoode, Ballantine & Co. Ltd., London, June 1916, volume 79, page 879". 1916. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-19. Cyrchwyd 2015-07-28.
  26. "Mr Thornton, I presume?: Everyone has heard of Livingstone, but the name of Richard Thornton, Livingstone's geologist, has been completely forgotten. Richard Boak tells his sad story". www.geolsoc.org.uk. Awst 2011.
  27. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' meyer
  28. Dundas, Charles (2012) [1924]. Kilimanjaro and its People: A History of the Wachagga, Their Laws, Customs and Legends, Together with Some Account of the Highest Mountain in Africa. Routledge. t. 20. ISBN 9781136249402. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Chwefror 2017. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2014.
  29. "Baron Carl Claus von der Decken – 1833–1865 – Collectors in East Africa – 31". Conchological Society of Great Britain and Ireland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2015.
  30. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' Stewart
  31. Cameron M. Burns (2006). Kilimanjaro & East Africa: A Climbing and Trekking Guide. The Mountaineers Books. t. 50. ISBN 978-0-89886-604-9. Cyrchwyd 2016-10-04.
  32. "Climbing Mount Kilimanjaro". IUCN Red List of Threatened Species. Ascend Tanzania. Cyrchwyd 26 Hydref 2019.
  33. "Kinyongia tavetana (STEINDACHNER, 1891)". The Reptile Database. Zoological Museum Hamburg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Medi 2015. Cyrchwyd 15 Awst 2015.
  34. 34.0 34.1 Hemp, Andreas (2006). "Continuum or zonation? Altitudinal gradients in the forest vegetation of Mt. Kilimanjaro". Plant Ecology 184: 27–42. doi:10.1007/s11258-005-9049-4.
  35. Schüler, Lisa; Hemp, Andreas; Zech, Wolfgang; Behling, Hermann (2012). "Vegetation, climate and fire-dynamics in East Africa inferred from the Maundi crater pollen record from Mt Kilimanjaro during the last glacial-interglacial cycle". Quaternary Science Reviews 39: 1–13. Bibcode 2012QSRv...39....1S. doi:10.1016/j.quascirev.2012.02.003.
  36. 36.0 36.1 Hemp, Andreas (2008). "Introduced plants on Kilimanjaro: Tourism and its impact". Plant Ecology 197: 17–29. doi:10.1007/s11258-007-9356-z.
  37. L. A. Bruijnzeel; F. N. Scatena; L. S. Hamilton (6 Ionawr 2011). Tropical Montane Cloud Forests: Science for Conservation and Management. Cambridge University Press. t. 136. ISBN 978-1-139-49455-7. Cyrchwyd 4 Hydref 2016.
  38. Gillman, C. (1923). "An Ascent of Kilimanjaro". The Geographical Journal 61 (1): 1–21. doi:10.2307/1780513. JSTOR 1780513. https://archive.org/details/sim_geographical-journal_1923-01_61_1/page/1.
  39. Clark, Ross (2006-10-28). "The wetter, the better". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-28. Cyrchwyd 2009-09-02.
  40. Ghazali Musa; James Higham; Anna Thompson-Carr, gol. (5 Mehefin 2015). Mountaineering Tourism. Routledge. ISBN 978-1-317-66874-9. Cyrchwyd 4 Hydref 2016.
  41. Ian Christie; Eneida Fernandes; Hannah Messerli; Louise Twining-Ward (2014). Tourism in Africa: Harnessing Tourism for Growth and Improved Livelihoods. World Bank Publications. ISBN 9781464801976. Cyrchwyd 2015-07-31.
  42. "The official site of the Tanzania National Parks – Latest news". 16 Mawrth 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Medi 2015. Cyrchwyd 23 Hydref 2017.
  43. ""Making success work for the poor: Package tourism in Northern Tanzania", Overseas Development Institute, authored by Jonathan Mitchell, Jodie Keane, and Jenny Laidlaw, 9 January 2008, accessed 31 July 2015" (PDF). odi.org. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 23 Hydref 2017.
  44. Ihucha, Adam (28 Tachwedd 2015). "Kilimanjaro airport upgrade to double its capacity". Nairobi.